Yn ôl

Pan fo pob eiliad yn cyfrif – rôl hanfodol Gofal trwy Gymorth Technoleg

Mae Llesiant Delta yn darparu gwasanaethau Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) 24/7 ledled Cymru, gan gefnogi tua 38,000 o unigolion drwy fonitro a gosod larymau teleofal a theleiechyd, galwadau llesiant rhagweithiol a thîm ymateb symudol yn y fan a'r lle.

Gan weithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chymdeithasau tai, mae'r sefydliad yn darparu cymorth ddydd a nos sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo byw'n annibynnol a diogelu unigolion sy'n agored i niwed. Mae staff wedi'u hyfforddi'n dda i ymateb yn gyflym, mewn modd tosturiol a phroffesiynol ym mhob sefyllfa – o gyswllt rheolaidd i argyfyngau sy'n peryglu bywyd.

Y sefyllfa

Roedd diwrnod arferol wedi troi'n argyfwng oedd yn peryglu bywyd i breswylydd cymdeithas dai oedd yn cael cymorth gan Lesiant Delta. Roedd yr unigolyn, sy'n byw yn annibynnol gyda chymorth dyfais llinell gymorth, wedi dechrau cael symptomau trawiad ar y galon.

Yr ymateb

Mewn gofid, defnyddiodd y defnyddiwr gwasanaeth ei larwm llinell gymorth. Roedd gwasgu'r botwm unwaith wedi cychwyn ymateb cyflym, wedi'i gydgysylltu'n dda. O fewn eiliadau, cafodd canolfan fonitro Llesiant Delta y rhybudd a chysylltwyd â warden y cynllun yn gyflym. Roedd y warden wedi cyrraedd y preswylydd yn gyflym ac wedi gallu darparu cymorth hanfodol wrth aros am y gwasanaethau meddygol brys.

Y canlyniad

Diolch i ymateb cyflym a digyffro pawb oedd yn rhan o'r broses, ynghyd â'u proffesiynoldeb, cafodd y defnyddiwr gwasanaeth sylw meddygol amserol ac mae bellach yn gwella'n dda yn yr ysbyty. Ond heb y llinell gymorth, gallai'r unigolyn fod wedi marw petai oedi o ran galw am help a chael mynediad at gymorth. 

Pam ei fod yn bwysig

Mae'r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae Gofal trwy Gymorth Technoleg yn ei chwarae - nid yn unig wrth hyrwyddo annibyniaeth a thawelwch meddwl o ddydd i ddydd, ond hefyd wrth ymateb i argyfyngau lle mae pob eiliad yn cyfrif. Mae'r hyn sy'n aml yn cael ei ystyried fel mesur rhagofalus "rhag ofn", mewn gwirionedd wedi achub bywyd. 

Casgliad

Mae'r achos hwn yn neges atgoffa bwerus fod Gofal trwy Gymorth Technoleg yn fwy na thechnoleg yn unig - mae'n wasanaeth sydd wedi'i ddatblygu gan ystyried gofal am unigolion, cysylltiad ac ymatebolrwydd. Mae'n cynnig sicrwydd nid yn unig i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth, ond hefyd i'w teuluoedd a'u cymunedau. Yn yr achos hwn, gwnaeth wahaniaeth rhwng byw a marw.