Sut y gwnaeth gwasanaeth CONNECT Sir Caerfyrddin helpu Beryl a'i theulu i aros gyda'i gilydd yn ystod COVID-19
Roedd *Beryl, sy'n 94 oed o Bontyberem wedi bod yn defnyddio uned gartref Llinell Gymorth a'r larwm gwddf am sawl blynedd er mwyn ei galluogi hi i fyw'n ddiogel yn ei chartref ei hun.
Mae hyn wedi rhoi tawelwch meddwl i'w theulu bod help wrth law bob amser ond pan ddechreuodd cyfyngiadau symud Covid-19 ym mis Ebrill 2020, roedd ei mab *David a'i merch yng nghyfraith *Linda yn awyddus iawn i Beryl gael mynediad i fwy o wasanaethau gan Delta CONNECT.
Pan gynigiodd Delta CONNECT lechen iddi i gysylltu â'i theulu, roedd Beryl yn ansicr iawn a dywedodd, "Bydda i byth yn gallu defnyddio hwnna!" Ond buan iawn, cafodd flas arni ar ôl y sesiwn arddangos, yr aeth Linda a David iddi hefyd.
Mae'r llechi wedi'u gosod er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cael mynediad yn hawdd i'r apiau y byddant yn eu defnyddio fwyaf. Mae Beryl yn defnyddio'r llechen ar gyfer gwneud galwadau WhatsApp i'w ŵyr, a symudodd i Ganada ychydig cyn y cyfyngiadau symud. Mae'r ddau wastad wedi mwynhau perthynas agos iawn ac mae cael gweld ei wyneb wrth iddynt siarad wedi bod yn wych.
Dywedodd Linda: “Mae'r system Llinell Bywyd yn werthfawr dros ben oherwydd mae'n rhoi tawelwch meddwl i Beryl a ni. Mae hi wedi defnyddio'r system cwpwl o weithiau pan oedd hi'n teimlo'n benysgafn, wedi cwympo neu wedi cael strôc fach ac mae hi dim ond yn ei dynnu i fynd i'r gawod. Rydym yn byw yn eithaf agos ac yn gallu ei chyrraedd mewn 15 munud ond os ydyn ni'n bwriadu mynd i ffwrdd am ychydig, gallwn ni gofrestru aelodau eraill o'r teulu i gael negeseuon rhybuddio os oes angen."
Fel rhan o'r gwasanaeth CONNECT, mae Beryl hefyd wedi derbyn galwadau llesiant cyson gan y tîm Delta drwy'r llechen, sy'n tawelu meddwl Linda a'i theulu pan nad oes modd iddyn nhw fod yno, yn enwedig yn ystod cyfyngiadau symud.
“Rhwng y llechen a'r galwadau llesiant, mae'n rhoi sicrwydd i Beryl bod rhywun yn cadw llygad arni. Rydym ni'n ei helpu hi â'i hanghenion bob dydd, ond mae'n mwynhau rhoi'r byd yn ei le dros y ffôn mewn gwirionedd, felly mae'r galwadau yn ymwneud mwy â chymdeithasu iddi hi," dywedodd Linda.
“Mae'r gwasanaeth wedi bod yn fendith i dair cenhedlaeth o'n teulu ni. Ar ôl i Delta ddarparu llechen, roedd fy mam yng nghyfraith yn bryderus braidd ac yn ansicr sut byddai'n ymdopi ond gymerodd hi ddim yn hir iddi i ddeall sut roedd yn gweithio!
Mae'n mwynhau galwadau fideo hyfryd gyda'i ŵyr. Yn ogystal, mae'n gallu gwrando ar ei hoff gerddoriaeth ar YouTube ac ers i Delta osod oriel ffotograffau ar ei llechen, mae'n treulio oriau yn edrych drwy ffotograffau teulu. Mae wedi bod yn rhywbeth cadarnhaol iddi hi ac i ni."
Mae Beryl, sydd â dirywiad macwlaidd a phroblemau symudedd wedi parhau i fod yn eithaf annibynnol yn ei chartref ei hun, diolch i'w throli ar olwynion a gwasanaethau teleofal drwy Lesiant Delta.
Mae gwasanaeth CONNECT wedi galluogi hyn i barhau drwy gydol y cyfyngiadau symud, diolch i ddull rhagweithiol Llesiant Delta.
*Mae’r enwau wedi'u newid