Yn ôl

"Tawelwch meddwl" i ofalwr 80 oed o Sir Benfro sy'n gofalu am ei mab sydd ag anaf i'r ymennydd

Mae gofalwr 80 oed o Sir Benfro, sydd wedi bod yn gofalu am ei mab yn dilyn anaf i'r ymennydd sy'n golygu ei fod yn tueddu i gael codymau, wedi dweud bod y gwasanaeth CONNECT yn rhoi "tawelwch meddwl" iddi.

Mae *Mrs Edwards wedi bod yn brif ofalwr i'w mab 61 oed yn dilyn damwain car ddifrifol sawl blwyddyn yn ôl a achosodd iddo gael anaf parhaol i'r ymennydd.

Ym mis Ionawr 2021, oherwydd ei hoed a'r ffaith bod ei hiechyd yn dirywio, teimlodd Mrs Edwards fod angen cymorth ychwanegol arni i ofalu am ei anghenion gan fod ei iechyd ef hefyd yn dirywio ac roedd wedi bod yn cael codymau yn amlach gartref.

 

Dywedodd, "Fi yw'r un sydd wastad yn helpu fy mab i godi oddi ar y llawr ar ôl iddo gael codwm, ond gan fod fy iechyd yn dirywio, mae wedi bod yn anodd iawn yn ddiweddar ac nid ydw i'n ddigon cryf mwyach i'w helpu i godi ac roedd angen mwy o gymorth arnaf."

 

Ar ôl siarad am ei phryderon â'i ffrind, dywedodd wrth Mrs Edwards i gysylltu â Llesiant Delta ynglŷn â'r gwasanaeth CONNECT rhanbarthol i drafod ei hopsiynau. Ar ôl cysylltu â'r tîm, cafodd Mrs Edwards ei chyfeirio at y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a chynhaliwyd asesiad llawn o'i hanghenion.

Yn dilyn hyn, cofrestrodd Mrs Edwards ar gyfer y gwasanaeth CONNECT, gan alluogi mynediad i'r Tîm Ymateb Cymunedol 24/7 a allai helpu pe bai ei mab yn cael codwm gartref, yn ogystal â galwadau llesiant rheolaidd i sicrhau ei bod yn teimlo'n iawn a bodloni unrhyw anghenion eraill a allai fod ganddi cyn gynted â phosibl.

Roedd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys cymorth digidol, help i ymgysylltu â'r gymuned a gosod offer llinell gymorth gofal trwy gymorth technoleg sy'n rhoi cymorth ddydd a nos, pe bai ei angen ar y teulu.

Dywedodd Mrs Edwards, "Ers CONNECT, mae gen i dawelwch meddwl nawr gan wybod pe bai fy mab yn cael codwm, ni fyddai'n rhaid i mi stryffagli i'w helpu i godi ar fy mhen fy hun. Mae wedi cael tri chodwm yn barod ac mae'r tîm ymateb cymunedol wedi dod i'n helpu ni bob tro. Yn flaenorol, roedd yn rhaid i mi ffonio ambiwlans gan ei fod angen cymorth meddygol."

 

Wrth siarad am y tawelwch meddwl y mae'r offer llinell gymorth wedi'i roi iddi, dywedodd wrthym, "Cyn gynted ag y gosodwyd y llinell gymorth, roeddwn i'n teimlo'n llawer gwell ac rwy'n gallu ymlacio mwy drwy wybod mai'r oll sydd yn rhaid i mi ei wneud yw gwasgu'r botwm coch os bydd angen cymorth arnaf ar unrhyw adeg."

 

Mae Mrs Edwards hefyd wedi bod yn cael galwadau llesiant wythnosol. "Rwy'n mwynhau'r galwadau hyn yn fawr iawn," meddai. "Rwy'n teimlo fel petai rhywun yn poeni am fy llesiant a llesiant fy mab. Ers i fy mab gael anaf i'r ymennydd, nid yw'n gallu siarad, felly pan rwy'n cael y galwadau hyn bob wythnos gan Delta, mae'n braf iawn cael sgwrsio â phobl. Rwy' mor ddiolchgar am yr holl gymorth yr ydym wedi'i gael drwy'r gwasanaeth CONNECT. Mae wedi cael effaith dda iawn ar ein bywydau."

*Mae’r enwau wedi'u newi