Yn ôl

Mae misoedd y gaeaf yn gallu bod yn gyfnod heriol i bobl oedrannus a phobl agored i niwed. Maen nhw'n fwy tebygol o fynd yn sâl, cael damweiniau a phrofi unigrwydd.

Yn ffodus, mae ffyrdd y gallwch helpu i gadw pobl oedrannus a phobl agored i niwed yn iach yn ystod misoedd y gaeaf.

 

5 awgrym i gadw pobl hŷn a phobl agored i niwed yn iach yn ystod y misoedd oerach

Mae sawl ffordd o gadw pobl yn iach yn ystod y misoedd oerach. Er enghraifft, gallwn ddarparu dillad twym, bwyd a lloches iddyn nhw. Gallwn hefyd ddarparu technoleg gynorthwyol a fydd yn eu helpu i gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid ac yn ei gwneud hi'n haws iddyn nhw ofalu amdanynt eu hunain a gwneud eu tasgau pob dydd.

Os ydych chi wedi bod yn chwilio am ffyrdd newydd o gadw eich anwyliaid yn ddiogel yn ystod misoedd y gaeaf, rydym yn argymell yn gryf y pum awgrym canlynol i helpu.

 

#1 Deiet iach

Un o elfennau mwyaf hanfodol ffordd iach o fyw yn ystod misoedd y gaeaf yw deiet iach. Mae sicrhau eich bod yn bwyta digon o ffrwythau, llysiau a phrydau maethlon yn bwysig i wella eich system imiwnedd chi neu'ch anwylyd.

 

#2 Cadw'n actif

Nid yw cadw’n actif yn apelio gymaint yn ystod misoedd y gaeaf, ond i gadw'n heini ac yn iach, mae'n bwysig cadw’n actif lle bynnag y bo modd. Er efallai na fydd hyn yn atal pob problem, mae'n ffordd wych o wella eich llesiant, optimistiaeth a’ch iechyd cyffredinol.

 

#3 Mynd allan

Mae'n hawdd aros gartref pan ddaw misoedd y gaeaf. Fodd bynnag, mae sicrhau bod pobl oedrannus a phobl agored i niwed yn mynd allan o gymorth yn ystod y misoedd unig hyn. Nid yn unig mae hyn yn helpu i hybu morâl ac optimistiaeth, ond mae'n helpu o ran lefelau gweithgarwch.

 

#4 Cadw'n gynnes

Mae cadw’n gynnes yn hollbwysig i iechyd yn ystod misoedd y gaeaf. Y cyngor cyffredinol yw cadw cartrefi pobl oedrannus ar dymheredd o 18°C o leiaf yn ystod misoedd y gaeaf i helpu i leihau unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â bod yn oer. Fodd bynnag, oherwydd yr argyfwng costau byw, mae'r risgiau hyn yn dod yn fwy amlwg.

Gall technolegau cynorthwyol helpu gyda'r broblem hon. Er enghraifft, mae blancedi wedi'u gwresogi a phadiau wedi'u gwresogi y gellir eu plygio i mewn i bwynt pŵer, neu hyd yn oed ficrodonau y gellir eu defnyddio fel gwresogyddion. Mae seddi wedi'u gwresogi y gellir eu gosod yn y car neu yn y cartref hefyd. Bu Llesiant Delta yn gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr yn y brifysgol i ddadansoddi effaith seddi wedi'u gwresogi ar gleientiaid hŷn a chleientiaid agored i niwed.

 

#5 Cael eich brechu

Mae brechlyn y ffliw ar gael i bob person oedrannus. Yn ffodus, mae cael eich brechu yn gyflym ac yn hawdd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn annog eich anwyliaid i gael eu brechlyn cyn gynted â phosibl.

 

Sut gall Llesiant Delta helpu?  

Oeddech chi'n gwybod y gall Llesiant Delta gynorthwyo eich anwyliaid yn ystod misoedd oer y gaeaf? Trwy ei becynnau CONNECT neu Llinell Gymorth, mae Llesiant Delta yn cynnig gwasanaethau teleofal ac achub bywyd hyblyg a thrylwyr sy'n helpu i ddiogelu annibyniaeth a hapusrwydd pobl oedrannus.

Trwy becynnau Gofal trwy Gymorth Technoleg, gall pobl oedrannus gadw eu hannibyniaeth a'u cryfder, a byw gyda hyder ac annibyniaeth. Ynghyd â'r pum awgrym rydym wedi'u cyflwyno uchod, gall hyn helpu i sicrhau bod eich anwyliaid yn hapus ac yn iach cyhyd â phosibl.

 

Sylwadau olaf

Mae misoedd y gaeaf yn gallu bod yn anodd i bobl oedrannus a phobl agored i niwed. Gan gofio hyn, mae'n werth ystyried y pum awgrym allweddol heddiw i gadw'r henoed yn iach yn ystod misoedd y gaeaf. Fodd bynnag, os ydych chi'n dal i deimlo'n ansicr, mae croeso i chi gysylltu â'n harbenigwyr gofalgar heddiw. Rydym yma i helpu!

 

Adnoddau (AM DDIM a 24/7)

Llesiant Delta – 0300 333 2222

Llinell Gymorth The Silver Line gan AgeUK - 0800 4 70 80 90