19 Hydref 2022
5 awgrym i helpu i leihau unigrwydd ymhlith pobl hŷn
Fel cymdeithas, mae ein poblogaeth yn heneiddio'n gyflym - sy'n golygu bod angen cymorth ar fwy a mwy o bobl hŷn. Mae nifer y bobl hŷn sy'n teimlo'n unig ac yn ynysig yn syfrdanol; amcangyfrifir bod cynifer â 1.4 miliwn o bobl ymhlith ein poblogaeth hŷn yn ei chael hi'n anodd. Yn ei dro, gall hyn arwain at nifer o gymhlethdodau a chanlyniadau difrifol o ran eu hiechyd, eu llesiant, a'u hansawdd bywyd.
Fodd bynnag, ni ddylai orfod bod fel hyn - a gall y pum awgrym syml heddiw eich helpu i wneud gwahaniaeth a lleihau unigrwydd ymhlith pobl hŷn. P'un a ydych chi am wella eich bywyd eich hun neu fywydau'r rhai o'ch cwmpas, mae digonedd o ffyrdd i helpu.
5 awgrym syml i helpu i leihau unigrwydd ymhlith y boblogaeth hŷn
Yn aml, wrth feddwl am unigrwydd, gall ymddangos fel petai'r boblogaeth hŷn wedi mynd yn angof, ac mae gennym ni i gyd fywydau prysur – gan ei gwneud hi'n anoddach nag erioed i dreulio amser gyda'n rhieni, mam-gu a thad-cu, cefndryd, ffrindiau oedrannus, ac ati. Gall y pum awgrym syml heddiw fod o gymorth mawr i helpu person hŷn i deimlo'n llai unig a gwella eu llesiant meddyliol yn gyffredinol.
#1 Dechreuwch sgwrs
Mae un o'r ffyrdd gorau y gallwch chi helpu i leihau unigrwydd ymhlith y boblogaeth hŷn yn syml—siaradwch amdano â'r bobl yn eich bywyd. P'un a ydych chi'n teimlo'n unig eich hun neu os yw un o'ch anwyliaid yn cael trafferth gydag unigrwydd, mae rhannu hyn yn ffordd gyflym o godi ymwybyddiaeth o'r mater.
#2 Cysylltwch â phobl eraill
Yn anffodus, un o brif achosion unigrwydd ymhlith y boblogaeth hŷn yw colli cysylltiadau â ffrindiau ac aelodau o'r teulu, boed hynny oherwydd eu bod wedi symud i ffwrdd neu am resymau eraill. Gyda hyn mewn golwg, weithiau efallai y bydd angen cysylltu â phobl eraill hefyd y tu allan i'ch cylch sefydledig. Gall hyn deimlo ychydig yn anghyfforddus i ddechrau, ond mae'n werth yr ymdrech yn y pen draw.
#3 Llenwch eich dyddiadur
Mae sicrhau bod gennych chi (neu eich anwyliaid) ddigonedd o weithgareddau wedi'u cynllunio yn hanfodol wrth atal unigrwydd rhag cydio. Gall hyd yn oed gweithgareddau ar eich pen eich hun helpu i roi hwb sylweddol o endorffinau, gan leddfu'r teimladau o fod yn unig. Ac yn y cyfamser, gall trefnu digon o weithgareddau gyda phobl eraill fod o gymorth mawr o ran cynnig gobaith. Mae bob amser yn ddefnyddiol cael pethau i edrych ymlaen atynt.
#4 Defnyddio cyfrifiaduron
Mae llawer o'r boblogaeth hŷn yn ei chael hi'n anodd defnyddio technoleg gyfrifiadurol. Fodd bynnag, os gallwch chi dreulio ychydig o amser yn dysgu neu'n addysgu technoleg a systemau cyfrifiadurol, gall pobl hŷn gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd a'u hanwyliaid yn llawer haws.
Yn Llesiant Delta, rydym yn cefnogi cysylltiad cymdeithasol ein cleientiaid drwy wasanaethau megis cynhwysiant digidol gydag offer digidol pwrpasol fel yr ap Connect2U, sef rhwydwaith cymdeithasol rhithwir i greu cymunedau diddordeb rhithwir. Gallwn helpu pobl i gysylltu â'u cymuned a chreu cysylltiadau gwell.
#5 Ymunwch â gweithgareddau cymunedol
Mae'r rhan fwyaf o gymunedau'n cynnig dewis eang o weithgareddau cymunedol rhagorol; gallai cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn fod yn ddelfrydol wrth deimlo'n unig. O nosweithiau cwis i gyfarfodydd eglwys, clybiau llyfrau, grwpiau cerdded, grwpiau bingo, a chymaint mwy, mae yna rywbeth i bawb. Hefyd, byddwch chi (neu eich anwyliaid) hefyd yn cael cyfle i gwrdd â phobl newydd sydd â diddordebau cyffredin. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau newydd a llenwi eich dyddiadur.
Dysgu mwy am fynd i'r afael ag unigrwydd
Mae unigrwydd yn gallu ymddangos fel her amhosibl. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir o gwbl, a gallwch chi'n bersonol wneud gwahaniaeth enfawr drwy wneud ymdrech bob dydd.
Os bydd angen rhagor o syniadau neu gyngor arnoch ar sut i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn, cofiwch gysylltu â'n harbenigwyr yma yn Llesiant Delta. Rydym yma i helpu i'ch cefnogi chi a'ch anwyliaid, a gallwn helpu unigolion i fyw bywyd hapus, iach ac annibynnol. Ffoniwch ni ar 0300 333 2222 i drafod mwy neu ewch i'n gwefan: www.llesiantdelta.org.uk.