Yn ôl

Aros yn annibynnol gyda Gofal trwy Gymorth Technoleg

Gall aros yn annibynnol ac yn hunangynhaliol ymddangos yn anodd wrth i ni fynd yn hŷn, felly mae'n ddefnyddiol bod yn ymwybodol o'r gwahanol opsiynau sydd ar gael yn ystod y cyfnod hwn. Yn ffodus, mae gwasanaethau Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) wedi dechrau helpu i drawsnewid gofal cartref ledled y DU, gan alluogi unigolion hŷn ac agored i niwed i deimlo'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.   

 

Beth yw Gofal trwy Gymorth Technoleg?   

Cyn i ni fynd ymhellach, dylem egluro'n gyntaf beth yw TEC a sut mae'n gallu cynnig amrywiaeth eang o atebion digidol ar gyfer cyflyrau hirdymor. Gall yr opsiynau technoleg gynorthwyol hyn gynnwys defnyddio teleiechyd, teleofal, a telefeddygaeth ochr yn ochr â (neu yn lle) dulliau adfer arferol claf. Mae'r newid hwn hefyd yn lleddfu'r pwysau ar y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol yn sylweddol.  

Ar ei symlaf, mae systemau Gofal trwy Gymorth Technoleg yn integreiddio technoleg fodern â'r broses adfer. Mae'r systemau TEC hyn hefyd yn hynod berthnasol a gwerthfawr ar gyfer gwella gofal cleifion oedrannus, y mae aros yn annibynnol yn aml yn gallu ymddangos fel her rwystredig iddynt. Fel cyflenwr TEC, rydym yn cydnabod bod y boblogaeth sy'n heneiddio yn mynnu atebion newydd i helpu i gefnogi eu hannibyniaeth. Dyma pam rydym yn gweithio'n ddiflino i integreiddio opsiynau newydd ar gyfer ein cleientiaid i'w helpu i fyw'n hunangynhaliol ac aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.  

 

Y galw cynyddol am dechnoleg gynorthwyol  

Oherwydd bod poblogaeth y DU yn heneiddio, mae'r gofynion a'r pwysau a roddir ar atebion gofal hirdymor wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae systemau gofal wedi wynebu galw cynyddol am ofal hirdymor; mewn gwirionedd, rydym wedi gweld cynnydd o 36% mewn tai byw â chymorth yng Nghymru.  

Mae'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhagweld y bydd angen gofal ar 57% yn fwy o oedolion 65 oed a hŷn yn 2038, ac ar 29% yn fwy o oedolion rhwng 18 a 64 oed. Oherwydd y twf sydyn hwn, mae technoleg gynorthwyol fel Teleofal neu Teleiechyd yn cael ei defnyddio'n ehangach i wella llesiant unigolion ledled y DU. Cyflymodd hyn yn ystod y rheoliadau cadw pellter cymdeithasol, a oedd yn atal llawer o bobl rhag mynd i'w hapwyntiadau wyneb yn wyneb yn rheolaidd.  

 

Mathau o opsiynau technoleg gynorthwyol 

Yn Llesiant Delta, rydym wedi ymrwymo i gefnogi byw'n annibynnol am gyfnod hirach a chefnogi pobl sy'n bryderus o ran materion digidol. Trwy ein casgliad o dechnolegau byw â chymorth, gallwn roi tawelwch meddwl bod cymorth bob amser ar gael pan fydd ei angen arnoch.  

Dyma lond llaw yn unig o'n hoff ffyrdd o ddefnyddio technoleg byw â chymorth i helpu unigolion i aros yn annibynnol ac yn hunangynhaliol.   

 

Rhybuddion meddygol   

Un o'r opsiynau cyntaf ar gyfer technolegau cynorthwyol sydd ar gael gennym yw ein hamrywiaeth o ddyfeisiau rhybudd meddygol. Technolegau sy'n gallu rhoi cymorth drwy wasgu botwm yw'r rhain. Mae atebion technoleg cynnil megis larymau a wisgir ar yr arddwrn neu o amgylch y gwddf, neu ddyfeisiau symudol bychain a all ffitio i mewn i'ch poced, yn gallu rhoi sicrwydd bod cymorth bob amser ar gael pan fydd ei angen arnoch.   

Mae'r atebion digidol hyn yn cynnig diogelwch ychwanegol fel y gall unigolion aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach. Gall ein llinellau cymorth a'n larymau gwddf gysylltu â'n canolfan fonitro 24/7, gan sicrhau bod cymorth bob amser ar gael drwy wasgu botwm.   

 

Synwyryddion   

Yn dibynnu ar eich anghenion, gall synwyryddion ychwanegol ddarparu mesurau diogelwch gwell sy'n gallu bod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl a allai grwydro. Hefyd, rydym yn darparu synwyryddion cwympo ac epilepsi rhagorol, gan helpu defnyddwyr i reoli eu cyflyrau.   

Yn ogystal, gallwn ddarparu ymateb cymunedol priodol drwy'r prosiect CONNECT sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Gall aelod o'n tîm o Ymatebwyr Cymunedol ddod draw pan fydd rhywun wedi cwympo ond nid yw wedi cael ei anafu a bod angen cymorth arno i'w godi ar ei draed neu fynd yn ôl i'r gwely. Mae'r gwasanaethau hyn yn helpu i roi tawelwch meddwl i anwyliaid a gofalwyr.  

 

Teclynnau atgoffa a dosbarthu tabledi awtomatig   

Mae cymryd tabledi ar yr amser iawn yn aml yn gallu bod yn anodd. Yn ffodus, mae ein teclynnau atgoffa a dosbarthu tabledi awtomatig yn ffordd ddefnyddiol o sicrhau nad ydych chi byth yn anghofio cymryd eich meddyginiaeth. Mae modd addasu'r offer hyn yn rhwydd i anghenion penodol i'w gwneud mor syml â phosibl. Mae gennym hefyd glociau atgoffa sy'n gallu helpu pobl â dementia drwy eu hatgoffa am dasgau neu ddigwyddiadau dyddiol.   

 

I gloi  

Heb os, mae technoleg gynorthwyol yn dod yn faes cynyddol bwysig. Drwy atebion a systemau fel Teleiechyd a Teleofal sydd bellach yn cynnig ffordd newydd i gleifion fynd i'w hapwyntiadau ar-lein, yn ogystal â llu o ddyfeisiau byw â chymorth sy'n helpu i wneud byw'n haws, mae aros yn annibynnol ar gyfer y dyfodol yn haws nag erioed. 

Mae Llesiant Delta yn darparu pecynnau gofal trwy gymorth technoleg ynghyd â monitro 24/7 i gwsmeriaid ledled y DU. Os ydych chi'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Geredigion, gallwch gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth cymorth cofleidiol Delta CONNECT sydd AM DDIM tan 31 Mawrth, 2023. 

Os hoffech gael mwy o fanylion am sut y gallwn helpu i gadw annibyniaeth ein cleientiaid a monitro eu hiechyd, cysylltwch â ni heddiw drwy ffonio 0300 333 2222. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych chi!