31 Hydref 2024
Cefnogi ein trigolion bregus y Calan Gaeaf hwn
I lawer o bobl, mae Calan Gaeaf yn noson o hwyl a chwerthin, ond i rai unigolion hŷn a bregus, gall fod yn gyfnod o bryder ac ofn.
Rydym yn cefnogi Ymgyrch Bang, ymgyrch dan arweiniad yr heddlu sy'n helpu ein cymunedau i fwynhau'r dathliadau'n ddiogel ac yn atgoffa pawb i feddwl am eraill ac ystyried sut y gall eu hymddygiad achosi braw neu ofid.
Dyma rai awgrymiadau i helpu pawb i fwynhau Calan Gaeaf yn gyfforddus ac yn ddiogel.
Sut i gadw'n ddiogel yn y gartref yn ystod Calan Gaeaf
Diogelu eich cartref:
- Os nad ydych chi eisiau unrhyw alwadau, gwnewch yn siŵr bod eich drysau a'ch ffenestri wedi'u cloi am ddiogelwch ychwanegol.
- Cloi eich drws gydag eich drws cadwyn ac edrychwch allan y ffenestr i weld pwy sydd yno cyn agor y drws.
- Gallwch wneud galwad prawf os oes gennych synwyryddion drws yn eich cartref, i sicrhau eu bod yn gweithio.
Byddwch yn ofalus gydag addurniadau:
- Trefnu addurniadau i atal peryglon baglu a chadw llwybrau cerdded yn glir.
- Osgoi defnyddio addurniadau a allai rwystro drysau.
- Os bydd anwylyd gwymp nad yw'n niweidiol a'ch bod angen cymorth, pwyswch eich llinell fywyd a threfnir help.
Osgoi rhyngweithio diethriaid:
- Os ydych chi ar eich pen eich hun yn eich cartref, ceisiwch osgoi agor y drysau i ddieithriaid.
- Os bydd rhywun yn eich gwneud yn anghyfforddus, caewch y drws a ffoniwch rywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
- Ystyriwch arddangos arwydd 'dim tric-neu drin', er mwyn rhoi gwybod i bobl nad ydych chi eisiau ymwelwyr.
Os ydych chi'n fas tric-neu-trin
Byddwch yn barchus:
- Ymdrin ag unigolion oedrannus gyda pharch adealltwriaeth.
- Effallai na fydd rhai pobl eisiau cymryd rhan mewn dathliadau Calan Gaeaf, ac mae’n bwysig parchu eu dewisiadau.
Osgoi pranks brawychus:
- Osgoi cymryd rhan mewn pranks neu weithredoedd a allai godi ofn ar bobl hŷn neu sy’n codi ofn arnynt. Dylai Calan Gaeaf fod yn brofiad pleserus a hwyliog i bawb.
Byddwch yn amyneddgar ac yn ddeallus:
- Deall y gallai rhai pobl hŷn gymryd mwy o amser i gymryd rhan neu efallai bod cyfyngiadau arnynt. Byddwch yn amyneddgar, yn deal ac yn darparu ar gyfer eu hanghenion.
I ddysgu mwy am sut y gall Llesiant Delta eich cefnogi chi a'ch anwyliaid, cysylltwch â ni ar 0300 333 2222, neu gallwch lenwi ein ffurflen atgyfeirio ar-lein.
Mae ein gwasanaeth Delta CONNECT ar gael i breswylwyr sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae'r pris wedi gostwng yn sylweddol diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.