Yn ôl

Cymorth i ofalwyr ifanc – Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc

Yn y cyfnod hwn nad ydym wedi gweld ei debyg o'r blaen, gall fod yn anodd i ofalwyr ifanc ddod o hyd i gydbwysedd rhwng eu cyfrifoldebau gofalu a'u bywydau bob dydd. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr mae 45% o ofalwyr ifanc 'bob amser' neu 'fel arfer' yn ei chael hi'n anodd cydbwyso gofalu gydag addysg a/neu waith cyflogedig. 

Yn ffodus, mae help ac adnoddau ar gael i gefnogi gofalwyr o bob oed. Mae'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau a gwybodaeth i unrhyw un sy'n gweithio gyda gofalwyr. Am ragor o wybodaeth ewch i carers.org

Mae Llesiant Delta hefyd yn darparu ystod o dechnoleg gynorthwyol, gan fonitro ac ymateb 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i gefnogi gofalwyr a'u hanwyliaid. 

 

Cerdyn Argyfwng: Rwy'n Ofalwr  

Yn Llesiant Delta gallwn gynorthwyo trigolion Sir Gaerfyrddin i dderbyn 'Cerdyn Argyfwng: Rwy'n Ofalwr'. Gall gofalwyr gario cerdyn 'maint pwrs neu waled', sy'n cynnwys rhif adnabod unigryw a rhif ymateb mewn argyfwng. Mae'r cerdyn yn rhoi gwybod i eraill fod y deiliad yn gofalu am rywun gartref nad yw'n gallu ymdopi heb gymorth. Os bydd y gofalwr mewn damwain/argyfwng neu'n cael ei gymryd yn ddifrifol sâl, bydd pobl eraill a'r gwasanaethau brys yn gwybod bod angen cymorth ar y person maent yn gofalu amdano. Mae'r rhain ar gael i ofalwyr o bob oed. 

Lawrlwythwch ffurflen gofrestru yma

 

Technoleg gynorthwyol 

Dyma rai mathau o systemau technoleg gynorthwyol a all helpu i gefnogi pobl agored i niwed: 

 

Synwyryddion 

Yn dibynnu ar eich anghenion, gall synwyryddion ddarparu mesurau diogelwch gwell sy'n gallu bod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl a allai grwydro. Rydym hefyd yn darparu synwyryddion defnyddiol ar gyfer codymau ac epilepsi, sy'n helpu defnyddwyr i reoli eu cyflyrau. Mae hyn yn helpu i wella hyder yr unigolyn o wybod y bydd help bob amser wrth law pan fydd angen ac y gall fynd trwodd i'n canolfan fonitro 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.  

 

Llinellau cymorth 

Ein larwm llinell gymorth yw un o'n gwasanaethau mwyaf poblogaidd ac mae'n debygol mai dyma'r lle gorau i ddechrau. Os yw'r sawl sy'n annwyl i chi yn teimlo'n anhwylus, yn cael codwm neu angen cymorth arall, gall gyffwrdd botwm ar strap arddwrn neu linell gwddf i seinio'r larwm. Mae hyn yn rhybuddio aelod o'n tîm monitro 24/7, a fydd yn eich helpu drwy asesu'r sefyllfa a chymryd camau priodol; fel cysylltu ag aelod o'r teulu, neu'r gwasanaethau brys. Bydd ein hymgynghorwyr llesiant bob amser yn aros ar y llinell hyd nes bod cymorth wedi'i drefnu. 

 

Ymateb 24/7 

Mae gwasanaeth CONNECT Llesiant Delta yn darparu gwasanaeth ymateb 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i chi a'ch anwyliaid. Gall ein hymatebwyr cyfeillgar fynd i gartref y sawl sy'n annwyl i chi ar gyffyrddiad botwm i wneud yn siŵr ei fod ef / hi yn iawn neu helpu gyda chodymau nad ydynt wedi achosi anaf. Rydym yn cynnig y gwasanaeth yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

 

Teclynnau atgoffa 

Mae atebion modern sy'n gallu cynorthwyo pobl yn cynnwys clociau atgoffa sy'n gallu helpu i ysgogi pobl i wneud tasgau dyddiol. Mae teclynnau atgoffa a dosbarthu tabledi awtomatig hefyd yn ffordd ddefnyddiol o sicrhau nad ydyn nhw byth yn anghofio cymryd eu meddyginiaeth. Mae modd addasu'r offer hyn yn rhwydd i anghenion penodol i'w gwneud mor syml â phosibl. 

 

I gloi 

Ein nod allweddol yn Llesiant Delta yw helpu a chefnogi pobl i fyw'n annibynnol gartref am gyhyd â phosibl. Am ragor o wybodaeth neu gyngor, ffoniwch un o'n hymgynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ar 0300 333 2222.