Yn ôl

Defnyddio technoleg i gefnogi pobl â dementia

Gall technoleg helpu unigolion sydd â dementia i fyw'n dda, yn annibynnol, ac yn ddiogel. Mae systemau newydd yn cael eu datblygu'n rheolaidd i helpu gyda rhai o'r heriau a pheth o'r straen sy'n gysylltiedig â symptomau dementia. O gofio hyn, rydym yn cymryd cipolwg ar sut gallai technoleg helpu i wneud bywyd yn haws i gleifion dementia, a chaniatáu i bobl barhau i fyw bywyd yn annibynnol ac i'r eithaf.

 

Sut gall technoleg gefnogi pobl â dementia?

Gall technoleg ddarparu systemau ac atebion newydd i helpu cleifion dementia i gadw eu hannibyniaeth, megis meddalwedd arbenigol i sicrhau bod modd i gleifion dementia fyw'n hapus heb fod ofn anghofio rhywbeth pwysig - gallai'r datblygiad newydd hwn newid yn llwyr y ffordd rydym yn trin dementia yn y dyfodol.

 

Sut gall technoleg gynorthwyol helpu?

Gall nifer o dechnolegau sydd ar y farchnad helpu cleifion dementia o bosibl, ac isod mae llond llaw o ddatblygiadau arloesol sydd ar gael gyda chleifion dementia mewn golwg.

 

Ffonau wedi'u haddasu

Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n cael diagnosis o ddementia dros 65 oed, ac nid yw'n syndod bod llawer o'r unigolion hyn yn fwy cyfforddus yn defnyddio ffôn llinell dir traddodiadol na ffôn symudol. Fodd bynnag, o ran cadw mewn cysylltiad, gall hyn gymhlethu pethau; wedi'r cyfan, mae anghofio rhif rydych chi wedi ei ddeialu gannoedd o weithiau yn gallu bod yn hynod rwystredig. Yn ffodus, bellach mae gan ffonau newydd wedi'u haddasu ddeialau mwy a systemau "rhifau deialu yn aml" i'w gwneud yn haws i gleifion dementia gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid.

 

Oriorau GPS

Mae wedi'i brofi bod gweithgarwch corfforol yn arafu dementia, ond un o'r heriau mwyaf mae llawer o bobl â dementia yn ei wynebu yw bod ofn mynd ar goll, a gall hyn atal pobl rhag bod mor weithgar yn gorfforol ag y gallent fod. Yn ffodus, mae oriorau GPS ar gael nawr i helpu i ddarparu cefnogaeth wrth gefn, gan ganiatáu i'r gwisgwr rannu ei leoliad presennol neu alw am gymorth os na all ddod o hyd i'r ffordd iawn eto.

 

Clociau atgoffa

Mae'n gyffredin i gleifion dementia fod yn bryderus ynghylch anghofio am eu gweithgareddau neu arferion arferol. Yn ffodus, mae clociau atgoffa yn cynnig ateb hynod hyblyg, gan atgoffa cleifion dementia o'u tasgau am y diwrnod. Mae'n ateb syml iawn ond effeithiol i helpu i sicrhau nad yw gorbryder yn dechrau cynyddu - gan roi tawelwch meddwl i'r cleifion fod gweithgareddau rheolaidd fel cymryd meddyginiaeth yn mynd i barhau.

 

Synwyryddion symud

Mae synwyryddion symud yn effeithiol iawn o ran helpu pobl â dementia i fod yn annibynnol. Mae'r systemau hyn yn gallu olrhain symudedd, gan adael i'r uned fonitro a yw rhywun yn symud, er mwyn sicrhau nad yw wedi cael damwain tra'n byw'n annibynnol. Os oes newid mewn lefelau gweithgaredd gall y system nodi hyn.

 

Llinell achub

Pa mor annibynnol bynnag y mae unigolion eisiau bod, o bryd i'w gilydd mae dal angen cefnogaeth eu hanwyliaid neu weithwyr proffesiynol arnynt. Yn ffodus, gall llinellau achub helpu gyda hyn, gan gynnig gwasanaeth monitro larwm 24/7 i sicrhau bod cleifion dementia yn cael help cyn gynted â phosibl, os oes ei angen arnynt. Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i ofalwr, i'r fath raddau, aros gyda rhywun drwy'r amser, ac yn galluogi pobl i fyw bywydau annibynnol, actif.

 

Sylwadau olaf

Mae'n ddiogel dweud, wrth i nifer y bobl sy'n byw gyda dementia gynyddu'n unol â'r boblogaeth sy'n heneiddio, fod yr angen am atebion i gefnogi pobl yn tyfu'n barhaus. Mae'r Gymdeithas Alzheimer yn rhagweld bydd tua 1.6 miliwn o bobl yn byw gyda dementia erbyn 2040. Yn ffodus, dyma lle gall technolegau cynorthwyol helpu, a gall atebion fel y rhai rydym wedi eu hamlinellu uchod wneud cyfraniad helaeth o ran hwyluso bywydau pobl â dementia a'u teuluoedd.

I ddysgu mwy am sut gall Llesiant Delta eich cefnogi chi a'ch anwyliaid drwy atebion pwrpasol, cysylltwch â ni ar 0300 333 2222. Ydych chi'n byw yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin neu Geredigion? Os felly, rhowch gynnig ar ein gwasanaeth Delta CONNECT AM DDIM (Telerau ac Amodau) i dderbyn pecyn cymorth hyblyg sy'n cynnwys asesiad llesiant, galwadau llesiant rhagweithiol, cymorth digidol, cymorth i ail-ymgysylltu â'r gymuned, a mynediad at wasanaeth ymateb cymunedol 24/7.