Yn ôl

Dyma Reolwr Gyfarwyddwr Delta Wellbeing, Samantha Watkins, yn siarad am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr.

Mae ffigyrau'n dangos bod 370,000 o ofalwyr ar draws Cymru sy'n darparu gofal a chymorth di-dâl i anwylyd sy'n hŷn, yn anabl neu'n ddifrifol wael. Mewn gwirionedd, Cymru sydd â'r gyfran uchaf o ofalwyr yn y DU, ac mae llawer ohonynt yn darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos. A bydd y nifer hwn yn parhau i godi. Amcangyfrifir y bydd dros hanner miliwn o ofalwyr yng Nghymru erbyn 2037, ac mae hynny'n gynnydd o 40%. 

Gall bod yn ofalwr fod yn hynod o werthfawr, gan fod yno i'ch anwylyd pan fydd eich angen fwyaf a threulio amser gwerthfawr gyda'ch gilydd; ond nid yw hynny'n golygu ei bod hi'n hawdd. Fel gofalwr fy hun, rwy'n gwybod pa mor heriol y gall fod ar adegau. Mae gennych chi ddyddiau da a dyddiau gwael, mae'n corddi llawer o emosiynau, ac yn aml rydych chi'n gweithio'n galed iawn i gydbwyso gwaith a theulu ac ymrwymiadau eraill. 

Mae bod yn ofalwr yn cael effaith enfawr ar ein bywydau, boed hynny am ychydig oriau'r wythnos neu ofal bob awr o'r dydd a'r nos, gallai fod yn gofalu am rywun yn eich cartref eich hun, neu efallai fod yn rhaid i chi deithio awr yn y car. Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, gall fod yn anodd ac weithiau'n unig, ac yn anffodus nid yw llawer o bobl yn gwybod sut neu ble i gael help. 

 

Cymorth a Chefnogaeth 

Ond nid ydych ar eich pen eich hun, ac mae llawer o help a chefnogaeth ar gael. Mae'n bwysig eich bod yn deall eich hawliau ac yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ar gael i chi cyn gynted ag y byddwch ei angen. 

Yma yn Llesiant Delta, gall ein tîm o ymgynghorwyr llesiant arbenigol roi'r wybodaeth, y cyngor a'r cymorth sydd ei angen arnoch i'ch cefnogi chi a diogelwch a llesiant y person rydych yn gofalu amdano. Mae gan adrannau Gofal Cymdeithasol ddyletswydd i hysbysu gofalwyr am eu hawl i Asesiad Anghenion Cymorth i Ofalwyr a darparu'r asesiad hwnnw. Rydym yn darparu'r gwasanaeth hwn ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin.  

Bydd ein tîm yn gofyn i chi beth sy'n bwysig i'r person yr ydych yn gofalu amdano ac i chi, er mwyn ein helpu ni i ddeall y sefyllfa ac i lunio pecyn pwrpasol o gyngor ymarferol a thechnoleg fydd yn diwallu eich anghenion orau. Gallai'r cynllun gynnwys: 

  • Gweithiwr cymorth penodol 
  • Cymorth ychwanegol ar gyfer y person sy'n derbyn gofal 
  • Cymorth emosiynol ac ymarferol 
  • Cyfeirio at wasanaethau a grwpiau gofalwyr perthnasol 
  • Darparu cyngor a chymorth 
  • Mynediad i Gerdyn Argyfwng: Rwy'n Ofalwr 
  • Mynediad posibl i'r Grant Cymorth Hyblyg i Ofalwyr 
  • Derbyn pecyn Gwybodaeth i Ofalwyr a llythyr newyddion rheolaidd 

 

Technoleg Gynorthwyol 

Mae gennym hefyd ystod o dechnoleg sy'n galluogi cynhyrchion gofal a all helpu i'w gwneud hi'n haws gofalu am rywun arall. Rydym yn cynnig atebion sy'n gweithio'r tu fewn i'r cartref a'r tu allan i'r cartref, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg brofedig ac anymwthiol.  

Ein larwm llinell bywyd yw un o'n gwasanaethau mwyaf poblogaidd ac mae'n debygol mai dyma'r lle gorau i ddechrau. Os yw eich anwylyd yn teimlo'n sâl, yn cwympo neu os oes angen cymorth arall, mae'n gallu cyffwrdd botwm ar fand arddwrn neu seinio'r larwm gwddf. Mae hyn yn rhybuddio aelod o'n tîm monitro 24/7, a fydd yn eich helpu drwy asesu'r sefyllfa a chymryd camau priodol; fel cysylltu ag aelod o'r teulu, neu'r gwasanaethau brys. Bydd ein hymgynghorwyr llesiant bob amser yn aros ar y llinell hyd nes bod cymorth wedi'i drefnu.  

Dyma dawelwch meddwl i chi ac i'ch anwylyd, gan wybod bod help wrth law os nad ydych o gwmpas am ba bynnag reswm. I mi'n bersonol, mae wedi bod yn achubiaeth nid yn unig i'r person rwy'n gofalu amdano, ond i'r teulu cyfan, gan wybod bod help a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. 

Ein nod allweddol yn Llesiant Delta yw helpu a chefnogi pobl i fyw'n annibynnol gartref am gyhyd â phosibl.  

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor, ffoniwch un o'n hymgynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ar 0300 333 2222.