Yn ôl

Llesiant Delta: trawsnewid bywydau yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Clefyd Alzheimer

Yng Nghymru, mae clefyd Alzheimer yn bryder cynyddol ac mae'n effeithio ar tua 45,000 o bobl. Wrth i'r nifer hwn gynyddu'n raddol oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, mae'r angen am gymorth a gofal effeithiol yn bwysicach nag erioed.

Yma yn Llesiant Delta, rydym yn cynnig gobaith i drigolion a'u teuluoedd ledled gorllewin Cymru a thu hwnt. Trwy ein hymagwedd arloesol at ofal iechyd, ac ystod o wasanaethau pwrpasol a thechnoleg gynorthwyol a all ddiwallu anghenion pobl sy'n byw ag Alzheimer's, bydd y blog hwn yn edrych ar yr atebion gallwn eu cynnig. 

Deall byw â chlefydd Alzheimer

Mae Alzheimer's yn glefyd niwroddirywiol sy'n effeithio'n bennaf ar yr ymennydd, gan arwain at ystod o namau gwybyddol a gweithredol. 
Yn y camau cynnar, efallai bydd unigolion yn anghofio sgyrsiau diweddar, apwyntiadau, neu lle maent wedi rhoi eitemau bob dydd. Mae cyfathrebu'n troi'n her gan eu bod yn ei chael yn anodd mynegi'r hyn maent yn ei feddwl ac mae'n bosibl cânt anhawster deall eraill.
Dros amser mae clefyd Alzheimer yn cymryd annibyniaeth ac atgofion rhywun, gan effeithio ar ei allu i gyflawni tasgau hunanofal elfennol hyd yn oed. Mae'n gyflwr torcalonnus sydd nid yn unig yn effeithio ar y rhai sy'n cael diagnosis, ond yn rhoi straen sylweddol ar eu gofalwyr a'u hanwyliaid. 
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi unigolion sy'n byw â chlefyd Alzheimer ac i hyrwyddo annibyniaeth.

Mae Llesiant Delta yn cynnig ymyrraeth gynnar gyda Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) 

Mae llawer o bobl yn cysylltu dementia â dirywiad y cof, ac eto mae'r cyflwr hwn yn effeithio ar wahanol bobl mewn amrywiol ffyrdd. Mae gan Llesiant Delta ystod o wasanaethau y gellir eu teilwra i anghenion unigol. Mae Gofal trwy Gymorth Technoleg yn cynnig amryw ddyfeisiau a rhaglenni cynorthwyol.

Dyfeisiau cynorthwyol: Ceir nifer o ddyfeisiau cynorthwyol fel synwyryddion tymheredd ystafell, larymau mwg, synwyryddion carbon monocsid, clociau 3 mewn 1, a theclynnau rhoi meddyginiaeth. Gall yr holl ddyfeisiau hyn helpu unigolion sydd â chlefyd Alzheimer i reoli eu harferion a'u meddyginiaeth bob dydd. 

Dyfeisiau diogelwch: Mae dyfeisiau gwisgadwy sydd â systemau tracio GPS yn galluogi gofalwyr i fonitro lleoliad unigolion ag Alzheimer's, gan leihau'r risg eu bod yn crwydro a mynd ar goll. Mae Llesiant Delta yn darparu dyfeisiau fel synwyryddion drws, tracwyr mynd i unrhyw le, TunstallGo a thraciwr GPS, sydd wedi'u cysylltu â'n canolfan fonitro 24/7, gan roi tawelwch meddwl i deuluoedd sy'n poeni am eu hanwyliaid.
Technoleg glyfar yn y cartref: Gellir addasu systemau clyfar yn y cartref i wella diogelwch a chysur. Gall nodweddion fel y synhwyrydd symud a'r synwyryddion gwely a chadair helpu â thasgau dyddiol ac anfon rhybuddion mewn sefyllfaoedd argyfyngus. 

Delta CONNECT: Gwasanaeth llinell gymorth a theleofal yw Delta CONNECT sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar gan ddarparu pecynnau cymorth technoleg  gynorthwyol unigol, yn cynnwys ein larymau llinell gymorth botwm coch, sy'n galluogi pobl i alw am gymorth mewn argyfwng drwy gyffyrddiad botwm a rhoi gwybod i staff ein canolfan fonitro sydd ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae hefyd yn cynnwys asesiad llesiant, galwadau llesiant rhagweithiol, a chymorth i ail-ymgysylltu â'r gymuned a chael mynediad i'n gwasanaeth ymateb cymunedol 24/7.
Tîm ymateb cymunedol: Mae tîm ymateb Llesiant Delta yn rhan hanfodol o'n gwasanaeth Delta CONNECT sy'n darparu cymorth brys rownd y cloc i bobl, yn enwedig mewn argyfyngau anfeddygol fel codymau lle nad yw pobl wedi cael niwed, a rhoi sylw i anghenion lles. Mae ymagwedd dosturiol a phroffesiynol y tîm yn sicrhau bod   y rhai mae'r cyflwr yn effeithio arnynt yn cael cymorth amserol ac yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartrefi.

Mae'r tîm ymateb ar gael 24/7 ac yn rhoi'r sicrwydd i gwsmeriaid a'u teuluoedd fod cymorth ar gael bob amser os bydd ei angen arnynt.

I gloi

Pwysig yw tynnu sylw at sut gallwn gael effaith wirioneddol nid yn unig ar y person sy'n byw â chlefyd Alzheimer, ond ei anwyliaid hefyd, trwy ddarparu cyngor a chymorth i'w helpu drwy'r cyfnod hwn o newid. Rydym  ni yn Llesiant Delta yma i'ch helpu pob cam o'r ffordd, a gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai mae Alzheimer's yn effeithio arnynt; nid yn unig ym Mis Ymwybyddiaeth Clefyd Alzheimer ond bob diwrnod o'r flwyddyn. 


I ddysgu mwy am sut gall Llesiant Delta eich cefnogi chi a'ch anwyliaid, cysylltwch â ni ar 0300 333 2222. Mae ein gwasanaeth Delta CONNECT ar gael i drigolion Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ac ar hyn o bryd mae'n RHAD AC AM DDIM am y tri mis cyntaf (telerau ac amodau'n berthnasol).