Yn ôl

Mis Clefyd Alzheimer y Byd: Cymorth ymarferol i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd a'u gofalwyr

Mae clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia yn cyffwrdd â phob rhan o fywyd bob dydd - i'r person sy'n byw gyda'r cyflwr ac i'r teulu a'r ffrindiau sy'n darparu gofal. Yn Llesiant Delta, mae ein nod yn syml: sef rhoi'r hyder i bobl fyw'n ddiogel ac yn annibynnol gartref am gyfnod hirach, gyda sicrwydd rownd y cloc i ofalwyr. Rydym yn gwneud hynny gyda Gofal trwy Gymorth Technoleg, ein larymau llinell gymorth a synwyryddion diogelwch, galwadau llesiant rhagweithiol, a gwasanaeth monitro ac ymateb cymunedol lleol 24/7.

Sut mae Gofal trwy Gymorth Technoleg yn helpu o ddydd i ddydd

Mae Gofal trwy Gymorth Technoleg yn ymwneud ag offer ymarferol sy'n cefnogi bywyd bob dydd ac yn seinio'r larwm yr eiliad y mae angen cymorth. Yn dibynnu ar yr hyn sy'n bwysig i'r person a'i ofalwr, gallwn gyfuno:

  • Larymau llinell gymorth a phethau i'w gwisgo (y larwm gwddf neu arddwrn botwm coch cyfarwydd) sy'n cysylltu â'n canolfan fonitro trwy wasgu botwm.
  • Synwyryddion diogelwch cartref fel synwyryddion drws a synwyryddion gwely/cadair, a all ddarparu rhybudd cynnar o risg (er enghraifft, os yw rhywun yn codi yn y nos neu'n gadael y tŷ yn annisgwyl).
  • Dyfeisiau GPS "unrhyw le" sy'n cynnig rhyddid i barhau i gerdded ac aros yn egnïol - tra'n rhoi'r gallu i ofalwyr ddod o hyd i anwylyd yn gyflym os ydyn nhw'n crwydro neu'n teimlo ar goll.

Oherwydd bod dementia yn effeithio ar bawb yn wahanol, mae ein pecynnau wedi'u teilwra i gyd-fynd ag arferion, risgiau a nodau'r person boed hynny'n atgoffa am feddyginiaeth, y gallu i symud yn fwy diogel yn ystod y nos neu'r hyder i barhau i fwynhau hoff deithiau cerdded.

Bob amser yno: ymateb lleol a monitro dwyieithog 24/7

Pan fydd botwm yn cael ei wasgu neu synhwyrydd yn cael ei sbarduno mae ein tîm monitro 24/7 yn ateb ar unwaith ac yn trefnu'r cymorth cywir, o sgwrs i roi tawelwch meddwl ichi i gysylltu â theulu, cymdogion neu wasanaethau brys. Mae ein canolfan yn gweithredu'n gwbl ddwyieithog, fel y gall pobl siarad yn yr iaith maen nhw'n fwyaf cyfforddus â hi.

Ar gyfer argyfyngau nad ydynt yn feddygol fel codymau nad ydynt yn niweidiol, gall ein Tîm Ymateb Cymunedol fynychu'n bersonol boed ddydd neu nos. Mae teuluoedd yn dweud wrthym fod cymorth uniongyrchol yn rhoi tawelwch meddwl, o wybod bod cefnogaeth leol i helpu rhywun i godi'n ddiogel a'u setlo gartref.

Galwadau llesiant rhagweithiol sy'n atal pryderon bach rhag dod yn broblemau mawr

Fel rhan o'n dull gweithredu, rydym yn gwneud galwadau llesiant rheolaidd yn wythnosol i weld sut mae pethau'n mynd, nodi anghenion sy'n newid yn gynnar, a chysylltu pobl â gweithgareddau cymunedol neu gymorth ymarferol. Mae'r cyswllt rhagweithiol hwn yn cael ei werthfawrogi'n arbennig gan ofalwyr, sy'n gwybod bod rhywun yn cysylltu â nhw'n rheolaidd ac yn gallu uwchgyfeirio pryderon yn gyflym os bydd unrhyw beth yn newid.

Beth mae hyn yn ei olygu i deuluoedd a gofalwyr

Rhyddid gyda sicrwydd: Mae GPS gwisgadwy yn gadael i mam barhau â'i thaith gerdded ddyddiol fuddiol ac ar yr un pryd yn rhoi neges rybuddio ac yn nodi'r lleoliad os oes angen help arni. Y nod yw rhoi hyder – nid cyfyngu ar annibyniaeth.

Nosweithiau mwy diogel: Gall synwyryddion gwely neu symudiad sbarduno galwad os yw rhywun ar ddihun yn hirach nag arfer yn y nos, gan leihau'r risg o gwympo a chefnogi gwell gorffwys i bawb.

Llais dynol, 24/7: P'un a yw rhywun yn teimlo'n bryderus, wedi pwyso'r larwm gwddf, neu sbarduno synhwyrydd, mae ein hymgynghorwyr dwyieithog yno, i dawelu meddwl a rhoi cysur ac yn barod i gydlynu'r camau nesaf.

Pan na allwch fod yno: Os oes codwm nad yw'n niweidiol yn digwydd, gall ein Tîm Ymateb Cymunedol fynychu'n gyflym i gynorthwyo a setlo'r person gartref, sy'n aml yn osgoi teithiau diangen i'r ysbyty.

Os ydych chi'n cefnogi rhywun â chlefyd Alzheimer neu fath arall o ddementia, nid ydych ar eich pen eich hun. Gall darnau bach o dechnoleg, gyda chefnogaeth tîm lleol gofalgar, ddarparu annibyniaeth, lleihau pryder a rhoi ychydig bach o ryddid i ofalwyr.

Mae rhai o'n gwasanaethau ar hyn o bryd dim ond ar gael ar draws Sir Gaerfyrddin ond byddwn yn ehangu'r gwasanaethau hyn ledled Cymru yn fuan iawn.

Ffoniwch 0300 333 2222 neu e-bostiwch info@deltawellbeing.org.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i drafod eich opsiynau.