Yn ôl

O ymwybyddiaeth i weithredu: sut y gallwn helpu i atal codymau ac ymateb pan mae'n bwysig

Mae codymau yn un o brif achosion anaf ymhlith oedolion hŷn, gan arwain yn aml at golled annibyniaeth, derbyniadau i'r ysbyty a chymhlethdodau hirdymor. 

Yr Wythnos Ymwybyddiaeth o Gwympo hon, rydyn ni'n croesawu'r thema "O Ymwybyddiaeth i Weithredu" trwy arddangos sut rydyn ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth leihau codymau a chefnogi unigolion pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf.

Galwadau llesiant rhagweithiol – cadw mewn cysylltiad, cadw'n ddiogel

Mae atal yn digwydd gyda chysylltiad. Nod ein galwadau llesiant yw cysylltu â'n cleientiaid yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn iawn, gan gynnig sicrwydd a nodi arwyddion cynnar o risg fel newidiadau mewn symudedd, iechyd neu hyder. Mae'r galwadau hyn yn fwy na sgwrs gyfeillgar, maen nhw'n hollbwysig ar gyfer sylwi ar broblemau posibl cyn iddyn nhw arwain at godwm.

Technoleg llinell gymorth - tawelwch meddwl drwy wasgu botwm

Mae ein dyfeisiau llinell gymorth a'n synwyryddion yn darparu gwasanaeth monitro 24/7, gan sicrhau bod help bob amser ar gael. P'un a yw'n larwm gwddf neu dechnoleg synhwyro cwympo, mae'r offer hyn yn rhoi tawelwch meddwl i unigolion a'u teuluoedd, gan wybod bod modd cael cymorth drwy wasgu botwm.

Gwasanaeth ymateb cyflym – gan fod pob munud yn cyfrif

Pan fydd codwm yn digwydd, mae cyflymder yr ymateb yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Gall aros am amser hir ar y llawr arwain at gymhlethdodau difrifol megis hypothermia, briwiau pwysau ac arhosiad yn yr ysbyty. Mae ein tîm ymateb symudol a reoleiddir yn gweithredu 24/7, gan fynd i gwympiadau nad ydyn nhw wedi achosi anaf o fewn 45 munud ar gyfartaledd, gan leihau'r angen am alwadau ambiwlans ac atal derbyniadau diangen i'r ysbyty. Yn wir, dim ond 6% o'n galwadau sydd angen eu huwchgyfeirio i wasanaethau brys meddygol, sy'n dangos effeithiolrwydd ymyrraeth amserol.

Yr effaith hyd yma

Drwy ein gwasanaeth CONNECT, rydyn ni wedi cyflawni:

  • Dros 190,000 o alwadau llesiant rhagweithiol
  • Mwy na 25,000 o alwadau allan am ymateb
  • Ymatebwyd i 94% o alwadau o fewn 45 munud
  • Dim ond 6% o'r galwadau allan sy'n cael eu huwchgyfeirio i'r gwasanaethau brys

 

Mae'r camau hyn wedi helpu miloedd o bobl i gynnal annibyniaeth, osgoi aros yn yr ysbyty a byw gyda hyder yn eu cartrefi eu hunain.

Pam ei bod yn bwysig

Nid yw codymau yn effeithio ar unigolion yn unig, maen nhw'n effeithio ar deuluoedd, cymunedau a'r system iechyd ehangach. Drwy gyfuno gofal wedi'i trwy gymorth technoleg, cysylltiad dynol ac ymateb cyflym, mae Llesiant Delta yn troi ymwybyddiaeth yn weithred bob dydd.

Gweithredwch heddiw

Os gallech chi neu un o'ch anwyliaid elwa o'n gwasanaethau, porwch y wefan i ddysgu mwy am ein pecynnau llinell gymorth, galwadau llesiant a gwasanaethau ymateb neu rhowch alwad i ni ar 0300 333 22222.