Yn ôl

Podlediad: Rôl technoleg wrth fynd i'r afael â'r heriau presennol sy'n wynebu'r diwydiant iechyd a gofal

Rydym wedi ymuno â'n partner trawsnewid digidol CGI i recordio cyfres o bodlediadau ar iechyd a gofal digidol, sy'n edrych ar yr heriau heddiw a sut gall y dechnoleg ddigidol gywir oresgyn y rhain a pharatoi'r ffordd ar gyfer model gofal newydd, gan roi cleifion yn gyntaf wrth galon y gwasanaethau sy'n cael eu darparu.

Yn ein podlediad cyntaf, rydym yn trafod sut mae sefydliadau iechyd a gofal yn rheoli economi gymysg technolegau newydd sy'n ceisio gweithio ochr yn ochr â hen dechnolegau. Ymunwch â ni wrth i ni drafod yr heriau dyddiol a wynebir yn y sector iechyd a gofal a'r safbwynt newidiol ar ofal trwy gymorth technoleg.