24 Tachwedd 2023
Rôl technoleg wrth fynd i'r afael â'r heriau presennol sy'n wynebu'r diwydiant iechyd a gofal
Rydym yn gweithio gyda CGI i wella iechyd a gofal cymdeithasol ledled gorllewin Cymru a thu hwnt, ac mae ffocws cychwynnol y bartneriaeth ar ddigideiddio ein platfform teleofal yn barod ar gyfer diffodd analog yn 2025.
Bydd hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer model iechyd a gofal digidol newydd a fydd yn rhoi cleifion yn gyntaf, ac yn helpu i ddarparu gofal a chymorth personol mwy clyfar.
Ond beth yw'r heriau a wynebwn yn y diwydiant iechyd a gofal ar hyn o bryd, a sut gall technoleg helpu i'w goresgyn?
Beth yw Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC)?
Mae gwaddol o hyd o ran beth yw gofal trwy gymorth technoleg, neu TEC fel rydym yn ei alw, mewn gwirionedd. Mae llawer o bobl sy'n byw gartref a llawer o glinigwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn meddwl mai gwasanaeth a fydd yn cadw rhywun yn ddiogel gartref yw TEC. Maent yn meddwl am synwyryddion mwg neu larymau botwm coch y gwisga pobl o amgylch eu gyddfau neu arddyrnau i alw am gymorth os byddant yn cwympo gartref neu'n mynd yn sâl, gan helpu i gadw pobl yn ddiogel yn yr amgylchedd hwnnw.
Ond mae'n gymaint mwy na hynny nawr, ac mae'n bwysig i ni sicrhau bod ein cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a'n preswylwyr yn deall yn iawn beth all technoleg ei wneud. Tan yn ddiweddar iawn, gwasanaeth adweithiol iawn yw TEC wedi bod.
Bydd yn dweud wrthych pan fo rhywbeth eisoes wedi digwydd, ac mae gan hynny ei le ac mae'n hanfodol ar gyfer llawer o'r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae llawer mwy y gallwn ei wneud yn awr gyda'r dechnoleg sydd ar gael heddiw. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn cyfleu'r neges honno.
Mae llawer o sefydliadau'n defnyddio technoleg, ond nid dyna sy'n greiddiol iddynt, gallai fod yn awdurdod lleol neu'n gymdeithas dai, sydd dal yn ddibynnol iawn ar wasanaethau a systemau hŷn. Yr her yw cael technolegau newydd i weithio ochr yn ochr â thechnolegau hŷn. Mae angen i ni sicrhau ein bod i gyd yn symud ar yr un cyflymder tuag at 2025 a bod y gwasanaethau sydd ar waith ar hyn o bryd yn barod ar gyfer y newid hwnnw.
Yr hyn sy'n bosibl
Rydym yn gweithio gyda CGI i ddatblygu un model gwasanaeth newydd a fydd yn ychwanegu gwerth sylweddol at y gwaith mae timau iechyd a gofal cymdeithasol yn ei wneud. Rydym yn datblygu, yr hyn sy'n bosibl, gan dynnu sylw at sut gall technoleg ddigidol ddarparu ymagwedd wirioneddol ragweithiol at ofal yn hytrach na'r ymagwedd adweithiol hon sydd wedi bodoli yn y gorffennol, gyda'r technolegau sydd gennym nawr a'r technolegau sy'n dod i'r amlwg. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i arddangos atebion digidol newydd a'u helpu i ddeall sut gall TEC gefnogi pobl yn y gymuned.
Wrth i ni weithio gyda chwmnïau offer TEC a chwmnïau sydd ar flaen y gad o ran datblygu systemau TEC, mae'n rhaid i ni sicrhau bod cydweithwyr mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y sector gofal yn rhan o hynny. Mae'n hanfodol ein bod yn deall yn iawn ble mae'r bylchau yn y gwasanaeth a'n bod yn defnyddio technoleg i integreiddio'r gwahanol systemau sydd ar waith, fel ein bod yn cael y data a'r canlyniadau sydd eu hangen arnom ac sy'n hynod ddefnyddiol i'r timau hynny yn y cymunedau.
Diffodd analog
Mae llawer o waith i'w wneud o hyd cyn diwedd 2025. Mae nifer o sefydliadau'n defnyddio TEC fel rhan o'u gwasanaeth, fel cymdeithasau tai, ond nid dyma'u prif wasanaeth ac nid ydynt wedi gallu blaenoriaethu gweithio a gwario ar y systemau sydd ganddynt ar hyn o bryd, fel bod popeth wedi'i alinio'n barod ar gyfer y newid digidol ac i'w galluogi i archwilio'r offer TEC sydd ganddynt.
Gan y bydd cysylltiadau ffonau symudol ledled y DU yn bwysicach fyth erbyn 2025, mae angen i gyflenwyr rhwydwaith ffonau symudol wneud cryn waith i sicrhau rhwydwaith digonol ledled y DU, fel bod y systemau'n gweithio fel y dylent fod yn gweithio. Mae llawer o offer digidol newydd yn cyrraedd y farchnad ac mae angen i ni barhau i ddeall y systemau a'r gwasanaethau sydd gan ein cwsmeriaid a'r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw, a'r hyn sydd ei angen arnynt.
Wedyn gallwn helpu i lenwi'r bylchau hynny. Gall olygu defnyddio offer mewn gwahanol ffyrdd i gael y canlyniadau cywir a'r wybodaeth gywir, ond byddwn yn gallu darparu gwasanaeth cofleidiol llawn i'n partneriaid.
Sylwadau olaf
Mae gan TEC draddodiadol rôl bwysig o hyd, ond gallwn gyflawni llawer mwy na hynny bellach.
Gallwn helpu pobl i fyw bywydau mor normal â phosibl, drwy greu un model gofal digidol a fydd yn darparu'r data sydd ei angen arnom i atal dirywiad mewn iechyd neu argyfwng rhag digwydd, gan gynnig gwasanaeth gwirioneddol ragweithiol i'r rhai sydd ei angen.