Yn ôl

Sut i atal codymau ymysg oedolion hŷn: newidiadau syml i gadw eich anwyliaid yn ddiogel

Rydym i gyd am aros mor annibynnol â phosibl wrth inni ddechrau ar y cyfnod o'n bywydau ar ôl ymddeol. Er, yn anffodus, gall llawer o bobl hŷn ddechrau cael codymau a baglu wrth wneud eu gweithgareddau dyddiol. Wrth gwrs, gall hyn eu rhoi mewn llawer iawn o risg; mewn gwirionedd, mae'r llywodraeth yn awgrymu bod tua thraean o oedolion hŷn dros 65 oed yn cael codymau, ac mae hyn yn cynyddu i dros hanner erbyn iddynt fod yn 80 oed. Oherwydd hyn, mae'n hanfodol bwysig cymryd camau i leihau'r risg o gael codymau ymysg y boblogaeth hŷn. Ond sut y gallwch fynd ati i wneud hyn, ac a oes modd osgoi codymau mewn gwirionedd?

 

A yw'n bosibl helpu i atal codymau ymysg y boblogaeth hŷn?

Mae helpu i atal codymau ymysg oedolion hŷn yn gwbl bosibl. Er bod oedolion hŷn mewn mwy o berygl o gael codymau, nid yw hynny'n golygu bod yn rhaid i hyn ddigwydd. Mewn gwirionedd, gydag ychydig o newidiadau syml i'ch ffordd o fyw, gallwch sicrhau nad yw codymau'n dod yn broblem sylweddol yn eich bywyd.

 

Sut mae lleihau'r risg o gael codymau ymysg oedolion hŷn

Sut y gallwn fynd ati i leihau'r risg o gael codymau ymysg y boblogaeth hŷn? Wel, mae nifer o opsiynau gwych y gallech eu hystyried, ac rydym yn argymell eich bod yn ystyried y rhain yn ofalus i gael y canlyniadau gorau.

 

#1 Bod yn egnïol

Un o'r awgrymiadau mwyaf hanfodol y gallwn ei roi i leihau'r risg o gael codymau ymysg oedolion hŷn yw bod yn egnïol. Mae bod yn egnïol yn ffordd syml ond hynod effeithiol o sicrhau bod eich cyhyrau'n dal i weithio ac yn gryf, hyd yn oed wrth ichi agosáu at y cyfnod o'ch bywyd ar ôl ymddeol. O wneud hynny, mae'n llawer haws bod yn gadarn ar eich traed wrth gerdded o'i gymharu â phobl nad ydynt yn symud ryw lawer.

Rydym yn cefnogi hyn yn Llesiant Delta drwy lwybrau cymorth rhagweithiol a hynny drwy ein rhaglen atal codymau lle mae ein cleientiaid Delta CONNECT yn cael eu hasesu ac yn gallu cael cyfleoedd ymarfer corff am ddim a sesiynau addysgol sy'n ymdrin â phynciau allweddol fel maeth, diogelwch yn y cartref, anghenion podiatreg, a chefnogaeth barhaus drwy gydol eu taith.

 

#2 Sicrhewch fod eich golwg yn iawn

Un achos cyffredin o bobl oedrannus yn cael codymau ac yn baglu yw canfyddiad dyfnder gwael a golwg niwlog, a gall y ddau ohonynt eich gwneud chi'n fwy tebygol o gael codwm. Oherwydd hyn, mae'n hanfodol bwysig cael prawf llygaid yn rheolaidd - a buddsoddi mewn sbectol addas, os oes angen - i helpu i leihau'r risg o gael codwm ymysg oedolion hŷn yn y boblogaeth.

 

#3 Defnyddio technolegau i leihau'r risg o lithro a chael codwm

Er bod llawer o bobl yn y genhedlaeth hŷn yn amharod i fanteisio ar dechnoleg fodern, mae'n bwysicach nag erioed os ydych mewn perygl o gwympo a baglu. Mae technolegau megis synwyryddion gwelyau a chadeiriau, synwyryddion symud, a synwyryddion cwympo yn helpu i leihau'r risg bod codymau'n berygl mawr; yn y cyfamser, mae larwm gwddf deallus yn caniatáu i'r defnyddiwr ofyn am gymorth yn gyflym pe bai ei angen ar ôl cael codwm.

Gall ein dyfeisiau Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) leihau lefel y risg sy'n gysylltiedig â chael codwm a gallant roi tawelwch meddwl i'r defnyddwyr eu bod yn gallu cael help pan fydd ei angen arnynt o gysur eu cartref eu hunain.

 

#4 Sefwch yn araf bob amser

Gall sefyll yn gyflym fod yn risg mawr i lawer o bobl, ac mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir ymysg y boblogaeth hŷn. Oherwydd hyn, er mwyn lleihau'r perygl o gael codwm neu deimlo'n benysgafn, rydym yn argymell yn gryf eich bod bob amser yn sefyll yn araf – waeth faint o frys sydd arnoch!

 

#5 Peidiwch â bod ofn defnyddio dyfais cerdded gyda chymorth

Nid oes cywilydd mewn defnyddio dyfais cerdded gyda chymorth er mwyn mynd o le i le os oes angen un arnoch. Gall offer syml fel ffon gerdded neu ffon fagl wneud gwahaniaeth mawr o ran eich gwneud yn fwy sefydlog, yn enwedig ar ôl cael cwymp o'r blaen.

 

#6 Siaradwch â gweithiwr meddygol proffesiynol

Hyd yn oed os oes codwm nad yw'n achosi anaf yn digwydd, mae bob amser yn bwysig rhoi gwybod i'ch meddyg. Gall asesu a yw'r codwm wedi digwydd oherwydd effaith unrhyw feddyginiaeth neu broblem iechyd a gall ddarparu cymorth megis therapi corfforol er mwyn atal rhagor o godymau yn y dyfodol.

 

I gloi

Wrth inni heneiddio, mae osgoi cael codymau wrth reswm yn mynd ychydig yn anoddach. Ond nid oes yn rhaid i oedolion hŷn dderbyn bod codymau'n rhan o fywyd, ac mae digon o awgrymiadau syml a dulliau ataliol ar gael sy'n gallu helpu. Felly, beth am roi rhai o'r syniadau hyn ar waith i helpu i wneud eich bywyd ychydig yn fwy diogel ac i gadw eich annibyniaeth? Mae'n rhyfeddol y gwahaniaeth y gallai ambell newid syml ei wneud.