Yn ôl

Wythnos Gofalwyr 2023 - manteision gofal trwy gymorth technoleg i ofalwyr

Yn y byd sydd ohoni, sy'n newid yn gyflym, mae technoleg wedi trawsnewid gwahanol agweddau ar ein bywydau, ac nid yw gofal yn eithriad. Mae gofalwyr, sy'n ymroi i lesiant pobl eraill, bellach yn defnyddio atebion gofal trwy gymorth technoleg i ddod yn fwy effeithiol yn eu rôl ofalu, yn ogystal â gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol.

O ddyfeisiau monitro o bell i rwydweithiau cymorth rhithwir, mae technoleg yn grymuso gofalwyr mewn ffyrdd cwbl newydd.

Yma yn Llesiant Delta, rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu a chefnogi gofalwyr di-dâl a'u hanwyliaid, gan gynnwys atebion amrywiol y tu mewn a'r tu allan i'r cartref gan ddefnyddio'r dechnoleg gynorthwyol ddiweddaraf.

Yn y blog hwn, byddwn yn ystyried manteision lu gofal trwy gymorth technoleg i ofalwyr a sut mae'n trawsnewid gofal.

 

Gwell cyfathrebu a chysylltedd

Un o brif fanteision gofal trwy gymorth technoleg yw gwell cyfathrebu a chysylltedd i ofalwyr. Drwy ffonau clyfar, llechi, a chymwysiadau gofal pwrpasol, gall gofalwyr gadw mewn cysylltiad yn hawdd â'u hanwyliaid a gofalwyr eraill. Mae negeseuon amser real, galwadau fideo, a chalendrau a rennir yn sicrhau bod amserlenni a thasgau yn cael eu cydlynu'n effeithlon. Gall gofalwyr drosglwyddo gwybodaeth bwysig yn gyflym, cydweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a cheisio cyngor gan rwydweithiau cymorth, dim ond drwy wasgu botwm. Mae cyfathrebu di-dor o'r fath yn meithrin ymdeimlad o gymuned ac yn lleihau'r unigrwydd sy'n cael ei brofi'n aml gan ofalwyr.

 

Diogelwch a monitro o bell

Mae technoleg wedi cyflwyno amrywiaeth o ddyfeisiau monitro o bell sy'n gallu gwella diogelwch a llesiant ein hanwyliaid yn sylweddol ac, ar yr un pryd, helpu i leddfu'r baich ar ofalwyr.

Gall synwyryddion gwisgadwy, dyfeisiau olrhain GPS, a systemau awtomeiddio cartref clyfar ddarparu data amser real ar arwyddion bywyd, lefelau gweithgarwch ac argyfyngau. Gall gofalwyr dderbyn rhybuddion neu hysbysiadau ar unwaith os bydd unrhyw beth afreolaidd neu risgiau posibl yn cael eu canfod, fel y gallant weithredu ar unwaith.

Gall larymau llinell gymorth ddarparu manteision sylweddol i ofalwyr, gan gynnig sicrwydd, diogelwch a thawelwch meddwl, gan gynnwys:

  • Cymorth ddydd a nos: Mae larymau llinell gymorth yn darparu monitro 24/7, gan ganiatáu i ofalwyr deimlo eu bod yn cael eu cefnogi bob amser.
  • Ymateb brys: Drwy wasgu botwm, mae'r ganolfan fonitro yn cael ei rhybuddio ar unwaith am sefyllfa ddifrifol, megis codwm neu salwch sydyn, gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd yn gyflym.
  • Mwy o ddiogelwch ac annibyniaeth: Mae larymau llinell gymorth yn cyfrannu at ddiogelwch ac annibyniaeth gofalwyr a'u hanwyliaid. Gall gofalwyr deimlo'n fwy hyderus i adael eu hanwyliaid ar eu pennau eu hunain, gan wybod bod modd cael help drwy wasgu botwm yn unig, gan wella ansawdd bywyd y ddau.
  • Tawelwch meddwl: Mae gofalwyr yn aml yn poeni am lesiant eu hanwyliaid pan nad ydynt gyda nhw, a gall larymau llinell gymorth leddfu rhywfaint o'r pryder hwnnw drwy ddarparu rhwyd ddiogelwch ddibynadwy. Gall gofalwyr deimlo'n fwy cyfforddus, gan wybod bod eu hanwyliaid yn gallu cael cymorth ar unwaith pan fo angen.
  • Ateb cost-effeithiol: O'u cymharu â threfniadau gofal eraill, megis cyflogi gofalwyr ychwanegol neu symud i gyfleusterau byw â chymorth, gall larymau llinell gymorth fod yn fwy cost-effeithiol. Maent yn darparu haen ychwanegol o ddiogelwch heb orfod gwario arian sylweddol, gan ganiatáu i ofalwyr reoli eu cyllideb wrth sicrhau llesiant eu hanwyliaid.

 

Mae monitro o bell nid yn unig yn gwella diogelwch unigolion, ond mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i ofalwyr, gan fod modd iddynt fonitro llesiant eu hanwyliaid hyd yn oed pan nad ydynt gyda nhw.

 

Rheoli meddyginiaethau ac olrhain iechyd

Gall rheoli meddyginiaethau ac olrhain gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd fod yn heriol i ofalwyr. Yn ffodus, mae gofal trwy gymorth technoleg yn cynnig atebion arloesol i symleiddio'r tasgau hyn. Mae apiau symudol a theclynnau dosbarthu tabledi clyfar yn atgoffa pobl am feddyginiaeth ac amserlenni dosau yn awtomatig, gan leihau'r risg o golli dos neu wallau meddyginiaeth. Yn ogystal, mae dyfeisiau olrhain iechyd digidol yn galluogi gofalwyr i fonitro a chofnodi paramedrau iechyd hanfodol, megis pwysedd gwaed, lefelau glwcos, a phatrymau cysgu. Drwy gadw cofnodion iechyd cynhwysfawr, gall gofalwyr helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau gwybodus a nodi tueddiadau neu newidiadau yn iechyd eu hanwyliaid.

 

Casgliad

Mae manteision gofal trwy gymorth technoleg i ofalwyr yn dod yn fwyfwy amlwg, o wella cyfathrebu a chysylltedd i alluogi monitro o bell, rheoli meddyginiaethau, a mynediad at rwydweithiau cymorth. Drwy groesawu'r datblygiadau hyn, gall gofalwyr fod yn fwy effeithlon, lleihau straen, a gwella ansawdd cyffredinol y gofal a roddir i'w hanwyliaid.

Yn Llesiant Delta ein prif nod yw helpu a chefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl ac mae ein pecyn Delta CONNECT yn cynnig gwasanaeth linell gymorth a theleofal gan gynnwys amrywiaeth o offer gofal trwy gymorth technoleg megis llinellau cymorth, synwyryddion cwympo, dyfeisiau olrhain GPS, synwyryddion drws a theclynnau dosbarthu meddyginiaeth, yn ogystal â mynediad at dîm ymateb cyflym 24 awr.  Mae manteision eraill yn cynnwys galwadau llesiant rhagweithiol a chymorth digidol. Ar hyn o bryd mae ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ac mae'n rhad ac am ddim am y tri mis cyntaf.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar drwy ffonio 0300 333 2222.