Yn ôl

Adroddiad arbennig ar gyfer gwasanaeth ymateb cymunedol Llesiant Delta

Mae gwasanaeth ymateb cymunedol Llesiant Delta wedi derbyn adroddiad arbennig yn dilyn ei arolygiad blynyddol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Fel rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.

Mae'r tîm ymateb cymunedol yn cefnogi cleifion i ddychwelyd adref o'r ysbyty drwy ddarparu cymorth a gofal am gyfnod byr hyd nes y gellir cael darparwyr ailalluogi neu ddarparwyr hirdymor. Mae hefyd yn darparu ymateb brys neu wasanaeth pontio i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd gofalu am eu hanwyliaid, a hynny o bosib oherwydd eu bod yn aros am asesiadau pellach neu gynnydd yn y ddarpariaeth gofal, neu fod angen cymorth gofal cymdeithasol ychwanegol yn y tymor byr. 

Maent yn cael technoleg gynorthwyol, fel llinellau cymorth, fel bod ganddynt fynediad at ganolfan fonitro 24/7 Llesiant Delta, ac os oes unrhyw bryderon ynghylch gofal yn methu, dirywiad sydyn, argyfyngau neu bryderon ynghylch lefel y gofal sydd ei angen, bydd y tîm ymateb yn cael ei anfon i gynnig cymorth yn ystod y cyfnod hwn.

Hwn yw'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru i gael ei gofrestru gydag AGC ac mae'n caniatáu i staff allu darparu'r gofal a'r cymorth angenrheidiol wrth roi sylw i gleient yn ei gartref pe bai angen hynny arno.

Fel rhan o'r broses arolygu, clywodd yr arolygydd farn defnyddwyr gwasanaeth a'u perthnasau a siaradodd ag aelodau staff a'r tîm arwain i gael dealltwriaeth o ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu.

Dywedodd yr adroddiad: "Mae'r gwasanaeth nodedig hwn am gyfnod cyfyngedig yn rhoi iechyd a llesiant pobl wrth wraidd ei waith amlddisgyblaethol. 

“Mae pobl, eu perthnasau a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn gwerthfawrogi'n fawr y gofal a'r gefnogaeth a ddarperir gan reolwr a thîm o staff ymroddedig a gwybodus.”

Ni chafwyd unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio.

Dywedodd Sarah Vaughan, Rheolwr Ymateb Cymunedol: “Rydym yn falch iawn bod y gofal o ansawdd uchel a ddarperir gan y gwasanaeth wedi cael ei gydnabod yn yr adroddiad arolygu hwn.
"Rydyn ni bob amser yn rhoi ein cleientiaid wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni'n falch o'n tîm o ymatebwyr diwyd ac ymroddedig sy'n mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth i'w bywydau.”

Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Hoffwn longyfarch y tîm yn Llesiant Delta ar adroddiad arolygu rhagorol sy'n adlewyrchu'r gwasanaeth unigryw sy'n cael ei ddarparu i drigolion, yn bennaf pan fydd argyfwng.

“Mae Llesiant Delta yn gweithio'n agos gyda thimau gofal cymdeithasol y cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sicrhau bod anghenion gofal a chymorth parhaus trigolion yn cael eu diwallu gartref nes bod pecyn gofal ailalluogi neu hirdymor yn cael ei roi ar waith, gan atal derbyniadau neu aildderbyniadau diangen i'r ysbyty.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad arolygu llawn.