Yn ôl

Mae byddin las Llesiant Delta yn cefnogi rhyddhau cleifion o’r ysbyty a llif cleifion yn Sir Gaerfyrddin, gan helpu i sicrhau bod gwelyau ysbyty y mae mawr eu hangen ar gael.

Mae tîm ymateb cyflym Llesiant Delta yn cefnogi cleifion i ddychwelyd adref o'r ysbyty drwy ddarparu cymorth gofal cymdeithasol am gyfnod byr hyd nes y gellir cael darparwyr ailalluogi neu ddarparwyr hirdymor. Ar gyfartaledd mae cleifion wedi gallu cael eu rhyddhau o'r ysbyty bum diwrnod yn gynharach o ganlyniad.

Mae'r tîm, ynghyd â swyddogion llesiant cymunedol Llesiant Delta mewn ysbytai, yn sicrhau y gellir rhyddhau cleifion cyn gynted â phosibl drwy ddarparu cymorth hanfodol i atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, rhyddhau gwelyau mewn ysbyty, rhyddhau amser gwerthfawr staff, cynnal llif ac osgoi bod cleifion sy'n ffit yn feddygol yn parhau yn yr ysbyty am gyfnod hirach.  

Gan weithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin, ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), mae tîm amlddisgyblaethol o wahanol weithwyr iechyd a gofal proffesiynol wedi’i sefydlu. Ei enw yw HomeFirst, a'i nod yw cefnogi pobl trwy gyfnod o adfer ac asesu mor agos i'w cartrefi â phosibl.  

Mae Llesiant Delta hefyd yn darparu ymateb brys neu wasanaeth pontio i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd gofalu am eu hanwyliaid wrth iddynt aros am asesiadau pellach neu gynnydd yn y ddarpariaeth gofal, neu'r rhai sydd angen cymorth gofal cymdeithasol ychwanegol yn y tymor byr. 

Os oes unrhyw bryderon ynghylch gofal yn methu, dirywiad sydyn, argyfyngau neu bryderon ynghylch lefel y gofal sydd ei angen, bydd y tîm Ymateb Cyflym 24/7 yn cael ei anfon i gynnig cymorth yn ystod y cyfnod hwn. 

Mae hyn yn helpu unigolyn i adennill ei gryfder a'i annibyniaeth ac aros gartref cyhyd ag y bo modd er mwyn osgoi cael ei dderbyn i'r ysbyty. 

Ers mis Awst 2021, mae'r gwasanaeth wedi cefnogi mwy na 916 o bobl a fyddai fel arall wedi aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy er eu bod yn ffit yn feddygol i gael eu rhyddhau, neu y byddai  angen eu derbyn i'r ysbyty o bosib heb fod y pecyn gofal cywir yn ei le.  

Darperir technoleg gynorthwyol i’r cleifion hyn, megis llinellau cymorth, fel bod ganddynt fynediad at dîm monitro ac ymateb Llesiant Delta 24/7.  

Dywedodd Sarah Vaughan, Rheolwr Ymateb Cymunedol, Llesiant Delta: “Mae ein byddin las yn chwarae rôl hollbwysig i osgoi derbyniadau i'r ysbyty trwy droi cleifion yn ôl wrth y drws ffrynt a'u cynorthwyo i fynd adref yn ddiogel, yn ogystal â hwyluso'r broses o ryddhau cleifion yn gynnar o'r ysbyty a chefnogi llif cleifion.  

“Trwy gysylltu â’n Swyddogion Llesiant Cymunedol yn ysbytai Glangwili a'r Tywysog Philip, mae ein hymatebwyr yn sicrhau bod cleifion yn gallu cael eu rhyddhau o'r ysbyty cyn gynted â phosibl, ac yn sicrhau bod anghenion gofal a chymorth parhaus yn cael eu diwallu i atal aildderbyniadau y gellir eu hosgoi.”  

Gall y fyddin las ddarparu cymorth o ran dosbarthu prydau bwyd, dosbarthu siopa, gwasanaethau glanhau, gwasanaethau i helpu i ofalu am anifeiliaid anwes a gwasanaethau trafnidiaeth i gynorthwyo gydag apwyntiadau meddygol.  

Gall ymgynghorwyr gysylltu unigolion â gwasanaethau cyfeillio, yn ogystal â chyfaill digidol sy'n gallu eu dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur, iPad neu ffôn symudol. Gall ymgynghorwyr roi unigolion mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfeillio, yn ogystal â chyfaill digidol sy'n gallu dysgu nhw sut i ddefnyddio cyfrifiaduron, iPads a ffonau symudol.  

Mae hefyd yn rhoi mynediad i nifer o grwpiau cymorth lleol ar gyfer y rhai â dementia (gan gynnwys Dementia CONNECT), clefyd Parkinson, strôc ac arthritis, ac mae’n gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Mind, Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin, a banciau bwyd lleol.  

Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin a'i nod yw cefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi am fwy o amser gan ddefnyddio'r offer Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) diweddaraf.  Mae'r dull rhagweithiol ac ataliol hwn yn helpu i nodi unrhyw faterion iechyd a llesiant posibl cyn gynted â phosibl gan sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu i atal argyfwng.    

Mae Delta CONNECT yn wasanaeth teleofal a llinell gymorth ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.  Mae'n cynnwys galwadau llesiant, pecynnau TEC wedi'u teilwra i anghenion unigolion, mynediad i’r tîm ymateb cymunedol 24/7 a chymorth digidol i helpu anwyliaid i gadw mewn cysylltiad.  

Ewch i www.llesiantdelta.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Hospital