05 Rhagfyr 2024
Canmol Llesiant Delta am ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau diogel ac arloesol yn yr archwiliad TEC diweddaraf
Mae Llesiant Delta wedi cael ei ganmol am ei arloesedd a'i ymrwymiad i ddarparu gofal a chymorth eithriadol yn ei archwiliad Fframwaith Safonau Ansawdd TSA diweddaraf.
Canfuwyd bod y cwmni, sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a bregus i fyw'n fwy annibynnol, yn cydymffurfio ym mhob maes gyda'r adroddiad yn tynnu sylw at gyflawniadau sylweddol, ac yn cadarnhau ymhellach ei enw da fel arweinydd yn y sector Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC).
Mae'r Fframwaith Safonau Ansawdd yn rhaglen archwilio ac ardystio annibynnol, a reoleiddir gan y TSA, corff ymgynghori'r diwydiant yn y DU ar gyfer gwasanaethau Gofal trwy Gymorth Technoleg, yn seiliedig ar egwyddorion ansawdd, diogelwch, arloesedd a gwelliant parhaus.
Dros y 12 mis diwethaf, mae Llesiant Delta wedi canolbwyntio ar weithredu platfform digidol arloesol, carreg filltir bwysig yn ei daith trawsnewid digidol. Roedd y trawsnewid, a ddisgrifir yn yr archwiliad fel un "wedi'i ddiffinio a'i strwythuro'n dda," yn sicrhau cyflwyniad llyfn, gyda'r tîm yn cydweithio'n agos â phartneriaid platfform i sicrhau llwyddiant.
Er gwaethaf heriau cychwynnol, gan gynnwys cysylltedd platfform a materion adrodd, dangosodd y cwmni gydnerthedd a gallu i addasu; a thrwy gydweithio gyda'r TSA a'r darparwr platfform, mae'r tîm wedi bod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â phryderon technegol, gan sicrhau gwelliant parhaus.
Mae'r tîm cyfathrebu hefyd wedi chwarae rhan allweddol, gan ddarparu arweiniad clir ar y newid o systemau analog i ddigidol. Mae adborth gan breswylwyr a phartneriaethau gyda sioeau teithiol BT wedi sicrhau bod y broses drawsnewid yn llyfn, gyda llawer o gwsmeriaid a oedd yn poeni o'r blaen bellach yn croesawu'r dechnoleg newydd.
Cafodd Llesiant Delta ei ganmol am ei "ofal tosturiol o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn," gyda chydnabyddiaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) am ddarparu gwasanaeth eithriadol.
Mae diogelwch yn parhau i fod wrth wraidd gweithrediadau'r cwmni, gyda mesurau diogelwch tân cadarn yn cael eu gweithredu, gan gynnwys systemau canfod mwg, gwres a charbon monocsid cydgysylltiedig sy'n integreiddio'n ddi-dor â'r offer llinell gymorth digidol. Mae'r dull rhagweithiol hwn yn sicrhau'r lefel uchaf o ddiogelwch i gwsmeriaid.
Er bod heriau fel mwy o alwadau (cynnydd o 23%) a phrinder cenedlaethol o ran y gweithlu wedi cael effaith ar weithrediadau, mae model gwasanaeth integredig arloesol Llesiant Delta yn parhau i sicrhau canlyniadau rhagorol i gwsmeriaid sydd ag anghenion uchel. Mae trin galwadau yn parhau i fod yn eithriadol, gyda 97.5% o alwadau yn cael eu hateb o fewn 60 eiliad (ac eithrio galwadau am namau).
Daeth yr archwiliad i'r casgliad bod Llesiant Delta, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, yn darparu "gwasanaethau diogel, sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac yn arloesol," wedi'i seilio ar ddiwylliant o welliant parhaus a gofal sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rydym yn hynod falch o'r adroddiad archwilio hwn, sy'n adlewyrchu gwaith caled, cydnerthedd ac ymroddiad y tîm cyfan. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff wedi mynd yr ail filltir i oresgyn heriau cymhleth tra'n parhau i ddarparu gofal a chymorth rhagorol i gwsmeriaid.
"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw at ymrwymiad y cwmni i arloesedd, diogelwch a rhoi pobl wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud."