19 Mawrth 2024
Canmoliaeth i Lesiant Delta am welliant ac arloesedd parhaus i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl
Mae Llesiant Delta wedi ennill cydnabyddiaeth Fframwaith Safonau Ansawdd TSA (QSF) sy’n uchel ei barch yn dilyn archwiliad llawn a gynhaliwyd gan TEC Quality ar ran TSA - sef corff ymgynghorol y diwydiant yn y DU ar gyfer gwasanaethau Gofal trwy Gymorth Technoleg.
Cafodd y cwmni, sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol, ei gydnabod am ei ddiwylliant o welliant ac arloesedd parhaus i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl.
Mae'r Fframwaith Safonau Ansawdd yn rhaglen archwilio ac ardystio achrededig gan UKAS sy'n cefnogi sefydliadau sy'n darparu cynnyrch a gwasanaethau Gofal trwy Gymorth Technoleg, ac mae’n seiliedig ar egwyddorion ansawdd, diogelwch, arloesedd a gwelliant parhaus.
Cafodd Llesiant Delta, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, asesiad trylwyr o’i wasanaethau a’i brosesau ac mae bellach wedi’i ardystio i gydymffurfio â’r holl fodiwlau safonau a darparu gwasanaethau sy’n ofynnol ar gyfer y Fframwaith Safonau Ansawdd, ac nid oedd angen gwella dim ar y gwasanaethau.
Nododd yr adroddiad archwilio fod y cwmni'n dangos dull cydweithredol a holistig o gefnogi unigolion, a bod gwasanaethau'n canolbwyntio ar y person ac nid ar dechnoleg, a'u bod wedi'u cynllunio i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl.
Ychwanegwyd: “Drwy gydol yr archwiliad dangosodd Llesiant Delta ddiwylliant o welliant ac arloesedd parhaus sy'n cael eu cefnogi gan strwythurau arweinyddiaeth sefydliadol ddatblygedig. Cafwyd tystiolaeth o'r ymdrech gyson i wella perfformiad, darparu gwasanaethau a chynnig y 'gwasanaethau gorau posibl' i gwsmeriaid corfforaethol, sefydliadau partner ac unigolion.”
Ers ei sefydlu yn 2018, mae Llesiant Delta wedi ehangu ei wasanaethau i ddarparu ystod o atebion Gofal trwy Gymorth Technoleg yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n gweithio'n agos gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol lleol a chenedlaethol i ddarparu un pwynt mynediad ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, ac yn darparu gwasanaethau arloesol i gefnogi cleifion sy'n gadael lleoliadau acíwt yn ogystal ag yn y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae'r cyflawniad hwn yn dyst i waith caled ac ymroddiad y tîm yn darparu gwasanaethau arloesol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
“Rwy'n falch iawn o Lesiant Delta a'r gwaith sy'n cael ei wneud; gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a helpu i fynd i'r afael â'r gofynion cynyddol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.”