15 Mai 2025
Canmoliaeth uchel i Lesiant Delta yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol cymru ar gyfer gwaith partneriaeth rhagorol
Mae Llesiant Delta, ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi cael canmoliaeth uchel yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2025 ar gyfer eu gwasanaeth arloesol Delta CONNECT.
Roedd Delta CONNECT yn un o dri a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y categori cystadleuol iawn 'Gweithio mewn Partneriaeth', sydd wedi'i noddi gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Mae'r Gwobrau yn taflu goleuni ar y gwaith rhagorol ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant ar draws Cymru ac yn tynnu sylw at y timau a'r sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl drwy arloesedd, tosturi a chydweithio.
Rhoddodd y beirniaid ganmoliaeth i Delta CONNET am ei ddull arloesol, ataliol tuag at ofal, wedi'i ddarparu drwy bartneriaethau amlasiantaeth cryf. Roedd y gwaith tîm amlddisgyblaeth a'r cydweithrediad â'r gwasanaeth ambiwlans wedi creu argraff ar y beirniaid, a nodwyd yr agweddau ataliol ac effaith bellgyrhaeddol y gwaith.
Wedi'i ariannu gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, mae CONNECT yn canolbwyntio ar ddarparu gofal ataliol trwy Ofal trwy Gymorth Technoleg a chymorth wedi'i bersonoli, ar gyfer oedolion hŷn, y rheiny sydd â chyflyrau cronig, ac unigolion sydd mewn perygl o arwahanrwydd cymdeithasol.
Mae'r prosiect yn cynnig manteision sylweddol trwy wella annibyniaeth a llesiant trwy ofal wedi'i bersonoli gartref. Mae rhan graidd o'r gwasanaeth yn cynnwys galwadau llesiant rhagweithiol a thîm ymateb cymunedol 24/7, gan sicrhau monitro parhaus ac ymyrraeth gyflym mewn argyfwng. Ar y cyd â staff Byddin Las Llesiant Delta mewn ysbytai, mae'r gwasanaethau hyn yn helpu pobl i aros yn ddiogel, yn annibynnol ac yn gysylltiedig yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach - gan leddfu'r pwysau ar ysbytai a gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae Delta CONNECT yn enghraifft wych o sut y gall gweithio gyda'n gilydd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein tîm a'n partneriaid - sy'n mynd yr ail filltir bob dydd i gefnogi pobl Gorllewin Cymru.
"Mae llwyddiant Delta CONNECT yn pwysleisio pwysigrwydd ymdrechion ar y cyd i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i'n cymuned; gan wella bywydau, rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd, a helpu pobl i fyw'n dda gartref am gyfnod hirach."
Er mai enillydd cyffredinol yn y categori oedd Cysylltu Sir Gâr, roedd y beirniaid yn glir ynghylch pa mor agos oedd y penderfyniad gydag ychydig o bwyntiau yn unig rhyngddynt, gan roi canmoliaeth i'r tri yn y rownd derfynol am eu heffaith a'u harloesedd.
Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n arbenigo mewn technoleg gynorthwyol, monitro ataliol a gwasanaethau ymateb er mwyn cefnogi unigolion i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref, gan leihau dibynnu ar ofal acíwt a hirdymor.