Yn ôl

Mae Llesiant Delta yn tendro ar gyfer platfform derbyn larymau a system fonitro newydd.

Mae'r cwmni, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, yn darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn ac agored i niwed i fyw yn fwy annibynnol.

Ers ei sefydlu yn 2018, mae Llesiant Delta wedi ehangu ei wasanaethau ledled Cymru gan ddefnyddio technoleg arloesol i ddarparu amrywiaeth o atebion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae ei ddwy Ganolfan Ymateb i Larymau yn Llanelli a Chaerfyrddin yn cefnogi dros 35,000 o gleientiaid drwy ei blatfform monitro Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC), yn ogystal â darparu gwasanaethau cymorth y tu allan i oriau a gwasanaethau adfer mewn argyfwng i 12 awdurdod lleol ac ystod eang o gymdeithasau tai a sefydliadau masnachol.

Mae'r cwmni'n gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol lleol a chenedlaethol i ddarparu gwasanaethau TEC arloesol safonol a newydd i gefnogi cleifion sy'n gadael lleoliadau acíwt yn ogystal ag yn y gymuned. Mae hefyd yn gweithio gyda busnesau a'r byd academaidd i wneud ymchwil i weld Technoleg Galluogi Gofal ymhellach ymlaen i ofal prif ffrwd ac wrth ddatblygu technolegau blaengar uwch.

Yn ddiweddar, mae Llesiant Delta wedi lansio menter i ddarparu gwasanaethau monitro cleifion newydd o fewn y bwrdd iechyd a chyflwyno gwasanaethau ymateb newydd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Felly rhaid iddo sicrhau bod ei wasanaethau a'i seilwaith yn gallu integreiddio technolegau a systemau newydd i ganiatáu cymaint o integreiddio â phosibl gyda systemau iechyd a gofal cymdeithasol eraill â phosibl.

Dywedodd Pennaeth Technolegau Llesiant Delta Paul Faulkner: “Ar gyfartaledd rydym yn delio â thros filiwn o alwadau'r flwyddyn, gan rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae ein gwasanaeth wedi esblygu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gynnig gwasanaethau pwrpasol, ymatebol a rhagweithiol i'n cymunedau, cwsmeriaid corfforaethol a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

 

“Wrth i'r DU symud tuag at system teleffoni ddigidol erbyn 2025, bydd yr effaith ar Ofal trwy Gymorth Technoleg a'n gwasanaeth yn newid yn sylweddol. Bydd yn gweld gwelliant mawr yn y dechnoleg y gall Delta ei gweithredu a'i chynnig, yn ogystal â'r wybodaeth y gallwn ei chasglu a fydd yn symud y gwaith o gydgasglu data yn ei flaen yn sylweddol a fydd o fudd mawr i dimau iechyd a gofal cymdeithasol wrth ddeall iechyd pobl yn ein cymunedau.

 

“Fel rhan o hyn bydd Delta yn newid ei system fonitro i un ddigidol newydd yn 2023. Bydd gweithio gyda'r darparwyr system fonitro gorau a chwmnïau cydgasglu data arbenigol yn sicrhau bod gwasanaeth Delta ar flaen y gad o ran yr hyn sy'n bosibl nawr ac y bydd yn parhau i esblygu ac yn addasu yn ystod y 2020au a thu hwnt.”

Mae cwmnïau sydd â diddordeb mewn bod yn bartner trawsnewid systemau digidol i ni yn cael eu gwahodd i dendro drwy GwerthwchiGymru. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 24 Tachwedd. Mae'r ymarfer caffael yn parhau tan ddiwedd 2022 a bydd platfform digidol gwell ar waith erbyn mis Ebrill 2023.