Yn ôl

Cwsmeriaid Llesiant Delta yn dweud bod eu diogelwch a'u llesiant wedi gwella

Mae arolwg boddhad cwsmeriaid blynyddol Llesiant Delta yn dangos yr effaith sylweddol y mae ei wasanaethau wedi'i chael ar wella diogelwch a llesiant ei gwsmeriaid.

Dywedodd tua 80%* o'r ymatebwyr fod y cymorth y mae Llesiant Delta wedi'i roi iddynt wedi gwneud iddynt deimlo'n llawer mwy diogel neu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'w diogelwch o amgylch eu cartrefi.

Yn ogystal, dywedodd 88% o gwsmeriaid fod y gwasanaethau wedi helpu i wella'u llesiant yn gyffredinol.

Casglwyd adborth gan gwsmeriaid ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Powys, Sir y Fflint a Wrecsam, yn ogystal â chleientiaid CONNECT yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Gofynnwyd i gwsmeriaid roi adborth onest ar yr amrywiaeth o dechnoleg gynorthwyol a'r gwasanaethau cymorth, ac i rannu eu barn a'u profiadau o ddelio â'r cwmni.

Dangosodd yr arolwg foddhad uchel gydag offer a'r broses osod: roedd 92% o ymatebwyr yn fodlon iawn neu'n fodlon ar ansawdd yr offer; a chafodd y broses osod ei chanmol hefyd, gan fod 93% o ymatebwyr wedi dweud eu bod yn fodlon ar yr amser y mae wedi'i gymryd i gwblhau'r gwaith gosod.

Canmolwyd staff y ganolfan fonitro am eu hymatebolrwydd, ac roedd 99% o'r ymatebwyr yn dweud bod yr ymgynghorwyr yn gwrtais, yn barod i helpu ac yn cyfathrebu'n glir. Ar ben hynny, roedd 89% o'r cwsmeriaid hynny a oedd angen y tîm ymateb cyflym yn fodlon iawn neu'n fodlon ar y gwasanaeth, a dywedodd 68% fod y tîm wedi cyrraedd o fewn 45 munud wedi iddyn nhw actifadu eu larwm.

Rhannodd cwsmeriaid amryw o sylwadau cadarnhaol, gan dynnu sylw at dawelwch meddwl ac annibyniaeth y mae'r atebion yn eu darparu. Dywedodd un cwsmer: “Mae fy larwm yn rhoi sicrwydd i mi a fy nheulu mai dim ond pwyso botwm sydd angen ei wneud i gael help," a dywedodd un arall: “Mae'r gwasanaeth yn newid pethau; fydden ni ddim yn gallu byw ein bywydau fel hyn hebddoch chi.”

Yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, mae Llesiant Delta yn ddarparwr arweiniol o ran gwasanaethau teleofal a teleiechyd, gan gynnig atebion arloesol i wella diogelwch, diogeledd ac annibyniaeth unigolion yn eu cartrefi. Mae'r ystod gynhwysfawr o wasanaethau yn cynnwys ymateb brys, gwasanaethau monitro, a galwadau llesiant rhagweithiol, sydd wedi'u cynllunio i roi tawelwch meddwl i gwsmeriaid a'u teuluoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae Llesiant Delta wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchel o wasanaeth y mae cwsmeriaid wedi dod i'w disgwyl, gan roi tawelwch meddwl a chefnogaeth i'w galluogi i fyw'n annibynnol ac yn hyderus. Bydd yr adborth o'r arolwg yn helpu i fireinio a gwella gwasanaethau i ddiwallu anghenion cwsmeriaid yn well.”

*roedd y sylwadau’n dynodi nad oedd y cwsmeriaid hynny a roddodd sgôr is wedi gorfod defnyddio'r llinell gymorth mewn argyfwng hyd yn hyn.