Yn ôl

Llesiant Delta Wellbeing a CGI yn dychwelyd fel Prif Bartneriaid Rhaglen ar y cyd ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol 2024

Mae Llesiant Delta Wellbeing a CGI yn dychwelyd fel Prif Bartneriaid Rhaglen ar y cyd ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol 2024 (CGGC24) am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae prif ddigwyddiad gofal cymdeithasol Cymru yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 15 Hydref a dydd Mercher 16 Hydref yng Nghlwb Criced Morgannwg yng Nghaerdydd.

Mae'r gynhadledd a gynhelir gan ADSS Cymru gyda chymorth gan y tîm Practice Solutions yn gyfle blaenllaw iawn i arddangos a rhwydweithio ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Llesiant Delta yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) ac mae CGI yn un o'r cwmnïau gwasanaethau ymgynghori TG a busnes mwyaf yn y byd.

Thema'r gynhadledd eleni yw Trawsnewid: Cyflawni Mwy gyda Llai, gan wneud Llesiant Delta a CGI yn bartneriaid delfrydol. Mae'r bartneriaeth arloesol rhyngddynt yn defnyddio technoleg i gefnogi gwell canlyniadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol. 

Mae'r dull hwn yn ategu'r rhaglen gyffrous ac amrywiol o sgyrsiau, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio sydd ar gael yn CGGC24.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli Llesiant Delta, Samantha Watkins: "Rydym yn falch iawn o fod yn noddwr prif raglen CGGC24 eto eleni gyda'n partner trawsnewid digidol CGI.

"Gyda'n gilydd rydym yn ysgogi agenda uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid digidol a darpariaeth gwasanaethau ledled Cymru ac rydym wedi ymrwymo i harneisio pŵer technoleg a data i wella iechyd a lles y boblogaeth, ac rydym yn cydnabod y gall ein cwmpas gwaith sy'n ehangu gael effaith sylweddol ar y galw am adnoddau iechyd a gofal – yn gorfforol ac yn ariannol.

"Mae'r thema eleni 'Trawsnewid: Cyflawni Mwy gyda Llai' yn cyd-fynd â'n gweledigaeth i ddatblygu atebion creadigol trwy ddull cydweithredol, defnyddio technoleg a datblygu ein gweithlu, i ddarparu model gofal cysylltiedig newydd i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon ac yn sicrhau gwerth i bobl."

Dywedodd Justene Ewing, Is-lywydd Iechyd a Gofal, CGI: “Mae'n fraint i ni unwaith eto fod yn Brif Bartner Rhaglen ar y cyd ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol 2024, mewn cydweithrediad â Llesiant Delta Wellbeing. 

“Yn CGI rydym wedi ymrwymo i wneud pethau'n wahanol. Trwy feithrin cydweithio a harneisio pŵer data, ein nod yw creu atebion cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru. 

“Edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag arweinwyr ac arloeswyr y sector yn CGGC24, wrth i ni barhau i ail-ddychmygu dyfodol gofal cymdeithasol gyda'n gilydd.”

Dywedodd Cadeirydd ADSS Cymru Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg: "Rwy'n edrych ymlaen at barhau i adeiladu'r berthynas gyda Llesiant Delta a CGI trwy eu cefnogaeth i'r gynhadledd eleni. Yn y cyfnod hwn o her enfawr i ofal cymdeithasol, mae cefnogaeth hael noddwyr sy'n cael effaith gadarnhaol yn y sector yn bwysicach nag erioed. 

“Mae nawdd Llesiant Delta a CGI yn cyd-fynd â themâu CGGC24 a bydd yn ein galluogi i ddarparu digwyddiad gwerth chweil i'r rheiny sy'n mynychu a fydd yn eu hysbrydoli, eu haddysgu a'u helpu i deimlo eu bod yn gysylltiedig ag arloesi gofal cymdeithasol a rhwydweithiau arfer gorau ar raddfa genedlaethol.”

Mae tocynnau ar gyfer y gynhadledd ar werth nawr ynghyd â'r digwyddiad gyda'r nos Connect: Under the Dome, ewch i wefan CGGC i gael y manylion yn llawn. Mae ADSS Cymru yn cynnig cyfle i uwch-arweinwyr enwebu pobl y maent yn credu sy'n ddarpar arweinwyr mewn gofal cymdeithasol i elwa o bris tocyn gostyngedig. E-bostiwch contact@adss.cymru am fwy o fanylion.

Ynglŷn â Llesiant Delta a CGI 

Mae Delta Wellbeing yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a bregus i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach. CGI yw un o'r cwmnïau gwasanaethau TG ac ymgynghori busnes mwyaf yn y byd. Gyda 90,000 o ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol ledled y byd, mae CGI yn darparu portffolio o alluoedd o un pen i'r llall, o TG strategol ac ymgynghori busnes i integreiddio systemau, gwasanaethau TG a phroses busnes a reolir ac atebion eiddo deallusol.

Mae Llesiant Delta a CGI yn gweithio gyda'i gilydd i wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngorllewin Cymru trwy drawsnewid digidol.  Mae eu gweledigaeth ar y cyd o gefnogi pobl i fyw'n annibynnol ac i alluogi unigolion i helpu eu hunain, wrth wraidd eu partneriaeth.  Maent yn wirioneddol ymrwymedig i gefnogi canlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaeth. Eu nod yw darparu gofal a chymorth personol, mwy craff, gan ddatblygu dull system gyfan o ymdrin â chontinwwm gofal.

Dilynwch @ADSSCymru #CGGC24 i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Twitter a LinkedIn