17 Mawrth 2023
Cyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau ITEC 2023
Mae Llesiant Delta wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau ITEC 2023 yn y categori Trawsnewid a'r categori Partneriaethau mewn TEC gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae'r gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan TSA, corff y diwydiant a’r corff cynghori ar gyfer Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) yn y DU, yn dathlu'r effaith gadarnhaol y mae gwasanaethau TEC yn ei chael ar fywydau miliynau o bobl yn y DU.
Mae'r wobr Trawsnewid ar gyfer prosiect CONNECT Llesiant Delta, sy'n trawsnewid y ffordd mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gan helpu pobl i aros yn annibynnol am gyfnod hirach yn eu cartrefi a lleihau'r galw sydd ar ofal hirdymor neu ofal acíwt.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys offer TEC pwrpasol, asesiadau llesiant, galwadau llesiant rhagweithiol, mynediad i'r tîm ymateb 24/7 a llwybrau cymorth rhagweithiol, ac maent i gyd yn helpu preswylwyr i gadw eu hannibyniaeth a pharhau i fod yn ddiogel gartref.
Ers ei lansio ym mis Ionawr 2020, mae wedi addasu a datblygu'n gyflym, ac o ganlyniad i bandemig COVID, mae wedi creu cyfleoedd newydd i drawsnewid gwasanaethau, gan sicrhau canlyniadau cadarnhaol i breswylwyr a thyfu'r bartneriaeth.
Yn benodol, mae wedi arwain at gyflwyno'r Fyddin Las, sef tîm o staff ysbyty sy'n cefnogi rhyddhau cleifion yn ddiogel ac atal derbyniadau i'r ysbyty drwy ddarparu gwasanaethau yn y gymuned a TEC. Mae tîm ymateb cyflym Llesiant Delta yn cefnogi cleifion i ddychwelyd adref o'r ysbyty drwy ddarparu cymorth gofal am gyfnod byr hyd nes y gellir cael darparwyr ailalluogi neu ddarparwyr hirdymor.
Mae hyn yn sicrhau y gellir rhyddhau cleifion cyn gynted â phosibl drwy ddarparu cymorth hanfodol i atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, rhyddhau gwelyau mewn ysbyty, rhyddhau amser gwerthfawr staff, cynnal llif cleifion ac osgoi bod cleifion sy'n ffit yn feddygol yn parhau yn yr ysbyty am gyfnod hirach.
Mae'r tîm hefyd yn darparu ymateb brys neu wasanaeth pontio i deuluoedd wrth iddynt aros am asesiadau pellach neu gynnydd yn y ddarpariaeth gofal, neu'r rhai sydd angen cymorth gofal cymdeithasol ychwanegol yn y tymor byr.
Mae'r wobr Partneriaeth mewn TEC ar gyfer cynllun treialu teleiechyd Llesiant Delta gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Lansiwyd y cynllun hwn i gefnogi cleifion ledled y rhanbarth i fonitro clefyd ar y galon, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a gweithrediad yr ysgyfaint o'u cartrefi eu hunain gan ddefnyddio ystod o offer iechyd wedi ei baru ag ap ffôn symudol.
Cafodd y cynllun ei ehangu ymhellach i gynnwys cleifion orthopedig i gefnogi a chynnal eu hiechyd a'u llesiant gymaint â phosibl wrth iddynt aros am lawdriniaeth. Mae hyn wedi arwain at ganslo llai o lawdriniaethau, lleihau hyd y cyfnod yn yr ysbyty o adeg y driniaeth, a gwella iechyd a llesiant cleifion yn gyffredinol.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y cinio gala fel rhan o gynhadledd ITEC sy'n cael ei chynnal yn yr ICC yn Birmingham ar 27 Mawrth.
Mwy o wybodaeth am Wobrau ITEC.