Yn ôl

Dad i ddau yn ennill Gofalwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Balchder Radio Cymru 2024

Mae tad ymroddedig ac anhunanol i ddau o Bort Talbot wedi cael ei enwi’n Ofalwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Balchder Radio Cymru 2024.

Mae’r wobr Gofalwr y Flwyddyn, a gynhelir yn Neuadd Brangwyn, a noddir gan Llesiant Delta, yn anrhydeddu’r rhai sy’n mynd y tu hwnt i hynny i sicrhau lles a chysur y rhai sydd y neu gofal.

Mae’r enillydd eleni, Eirian Evans o Bort Talbot, yn enghraifft o’r rhinweddau hyn a mwy.

Wedi’i henwebu gan elusen ganser Maggie, mae stori Eirian yn un o ymrwymiad diwyro i’w deulu a’i gymuned.

Gan gydbwyso ei rôl fel ymarferydd nyrsio llawn amser ar ward adfer strôc Ysbyty Castell Nedd Port Talbot, mae Eirian wedi dangos ymroddiad eithriadol gan ddarparu gofal rown y cloc i’w wraig Rachel, 49 oed, sy’n cael cemotherapi ar gyfer canser y fron.

Er gwaethaf heriau ei swydd heriol, mae Eirian hefyd yn gofalu am eu merched Ellie, 16 oed, ac Annie, 12 oed, tra hefyd yn dod o hyd i amser i wirfoddoli i RNLI Port Talbot a chymryd rhan mewn triathlonau i godi arian ar gyfer Canolfannau Maggie.

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Eirian, sy’n 45 oed: “Mae’n sioc enfawr ennill y wobr hon, ac nid wyf teimlo fy mod ei haeddu. Mae na bobl eraill yn y gymuned sy’n haeddu hyn yn llawer mwy na fi. Rwy’n ddiolchgar i Maggie’s am roi fy enw ymlaen. Mae llefydd fel Maggie’s yn ffantastig; mae’n lle dwi’n teimlo’n neis ac ymlacio, a dwi’n sgwrsio efo pawb. Maent yn gefnogol iawn, iawn. Bydden i mewn llanast iawn pe na bai gen i le fel Maggie’s.”

Mae ymrwyniad Eirian i’w deulu a’i gymuned yn ymestyn y tu hwnt i’w ddyletswyddau proffesiynol a gofalgar. Mae’n gwirfoddoli fel aelod criw ar gyfer RNI Port Talbot, yn rhedeg marathonau ac yn cystadlu mewn cystadlaethau Ironman yn ei amser hamdden cyfyngedig.

Yn wreiddiol o Rhydaman ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Maes yr Yrfa, mae Eirian yn cydnabod effaith ddofn diagnosis ei wraig ar y teulu.

“Mae wedi ein taro’n galed iawn,” meddai. “Mae’n anodd gweithio’n llawn amser a sicrhau bod fy nheulu’n iawn hefyd.”

Mae Eirian a Rachel yn nyrsys ymroddedig, proffesiwn sy’n rhedeg yn eu teulu, ac yn ysbrydoli eu merch hynaf Ellie i ddechrau prentisiaeth mewn creche lleol.

Mae eu ieuengaf Annie yn dilyn ôl troed Eirian fel triathletwr talentog a bydd yn cynrychioli Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol yn y Pencampwriaethau Rhyngranbarthol ym mis Medi ym Mharc Mallory yng Nghaerlŷr, sy’n dod â’r athletwyr ifanc gorau o Gymru, Lloegr a’r Alban ynghyd.

Roedd Gwobrau Balchder Radio Cymru, a noddir gan Atlantic Recycling, ac i gefnogi Prostate Cymru, yn dathlu cyfraniadau eithriadol unigolion o bob cwr o Gymru.

Roedd Rheolwr Gyfarwyddwr Llesiant Delta, Samantha Watkins, yn falch iawn o gyflwyno’r wobr i Eirian.

Dywedodd: “Mae stori Eirian yn dyst i wytnwch, tosturi, ac ymrwymiad diwyro gofalwyr ym mhobman sy’n gwneud cyfraniadau rhyfeddol yn dawel i fywydau pobl eraill ac yn ein hysbrydoli ni i gyd i estyn allan, cefnogi ein gilydd, a dathlu pŵer tosturi yn ein cymunedau.”

Llun: iNNOVATION Photography