Yn ôl

Dathlu rhagoriaeth wrth ddigideiddio, cysylltu, a thrawsnewid iechyd a gofal

Mae Llesiant Delta a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyrraedd y rhestr fer am dair gwobr yng Ngwobrau Digidol cyntaf HSJ.

Mae Delta CONNECT – gwasanaeth llinell gofal a theleofal ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion - wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Cysylltu Iechyd a Gofal Cymdeithasol drwy ddulliau Digidol ar gyfer cefnogi pobl oedrannus a bregus i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi.

Mae'r Rhagsefydliad Orthopedig Rhithwir sy'n rhan o'r prosiect teleiechyd gyda Tunstall Healthcare ehangach wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr: Cefnogi Adferiad Dewisol drwy ddulliau Digidol ac Optimeiddio Llwybrau Clinigol drwy ddulliau Digidol. Mae'n cefnogi cleifion ar draws y rhanbarth i fonitro'r galon, gweithrediad yr ysgyfaint, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, a hynny o bell yn eu cartrefi eu hunain, ac mae wedi ei ehangu ymhellach i gynnwys cleifion orthopedig yn dilyn pandemig COVID er mwyn cefnogi eu hiechyd a'u llesiant tra'n aros am lawdriniaeth.

Cafwyd 314 o enwebiadau ar gyfer Gwobrau Digidol HSJ 2023, gyda 164 o brosiectau ac unigolion yn cyrraedd y rhestr fer derfynol (o blith 120 o sefydliadau) gan adlewyrchu'r amrywiaeth o ddulliau arloesi a gofal ar draws systemau iechyd a gofal y DU.

Hon yw'r flwyddyn gyntaf y cynhelir Gwobrau Digidol HSJ, a'r nod yw rhoi sylw i ymdrechion a gorchestion dyddiol eithriadol unigolion a thimau ar draws y sector digidol.

Dywedodd golygydd HSJ, Alastair McLellan: "Ar ran fy holl gydweithwyr, mae'n rhoi pleser mawr i mi longyfarch Llesiant Delta a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyrraedd y rhestr fer derfynol. Mae'r holl geisiadau yn cynrychioli'r 'gorau o'r GIG' ac yn aml yn rhoi cur pen i'n panel beirniaid!

"Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i'r seremoni wobrwyo ym mis Mehefin, gan ddathlu'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni a chydnabod ar y cyd ein gwerthoedd o rannu arfer gorau, gwella canlyniadau cleifion ac ymdrechu'n barhaus i wella'r gwasanaeth. Ond rhaid cofio bob amser taw nad dathliad ar noson benodol yn unig mo'r seremoni wobrwyo, ond llwyfan i gydnabod gwaith caled y staff drwy'r flwyddyn."

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod y seremoni wobrwyo yn Manchester Central ar 22 Mehefin.

Mwy o wybodaeth am Wobrau Digidol HSJ.

Banner