Yn ôl

Delta CONNECT yn ennill gwobr trawsnewid digidol yng Ngwobrau MJ

Mae Delta Wellbeing wedi ennill y wobr Trawsnewid Digidol yng Ngwobrau MJ eleni ar gyfer prosiect Delta CONNECT.

Mae Gwobrau MJ yn cydnabod ymdrech arbennig y rhai mewn llywodraeth leol sy'n ymroi i gefnogi cymunedau lleol a dangos dyfalbarhad yn wyneb heriau.

Nodwyd yn y llyfryn Gwobrau MJ am yr enillwyr: “Mewn maes eithriadol o gryf, roedd Delta CONNECT, sef rhaglen trawsnewid digidol iechyd a gofal cymdeithasol y cyngor, wedi gwneud argraff dda ar y beirniaid nid yn unig o ran uchelgais a maint Delta CONNECT, ond hefyd angerdd ac ymrwymiad y rhai sydd wedi ei ddarparu - ac sy'n parhau i wneud hynny. Dywedodd y beirniaid ei fod yn "wirioneddol drawiadol.'”

Mae Delta CONNECT yn wasanaeth cymorth cofleidiol 24/7 sydd ar gael ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, a Cheredigion.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys asesiad llesiant, galwadau llesiant rhagweithiol, cymorth digidol, cymorth i ail-ymgysylltu â'r gymuned, a mynediad at wasanaeth ymateb cymunedol 24/7.

Mae pecynnau Gofal trwy Gymorth Technoleg pwrpasol Llesiant Delta yn cynnwys dyfeisiau sy'n galluogi pobl i gael help drwy gyffwrdd botwm, ac offer arbenigol wedi'i deilwra ar gyfer anghenion y cwsmer. Gall hyn gynnwys oriorau olrhain GPS, synwyryddion epilepsi, peiriannau meddyginiaethau, synwyryddion drysau, synwyryddion gwely, llechi digidol, a mwy. Gall y gwasanaeth ddarparu ateb digidol i bron unrhyw gyflwr neu angen.

Ar hyn o bryd mae'r prosiect wedi cefnogi dros 5000 o unigolion, ac ar hyn o bryd mae'n cynnig cyfnod prawf am ddim tan 31 Mawrth, 2023. Gyda chyfradd cadw o 80% ar ôl y cyfnod prawf am ddim, mae CONNECT wedi llwyddo i gefnogi cleientiaid gyda'u hannibyniaeth, tra'n sicrhau eu bod yn cadw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, sy'n galluogi Bwrdd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. Mae’r Bartneriaeth yn dwyn ynghyd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Ceredigion a Chyngor Sir Penfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chynrychiolwyr o’r trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae'r bartneriaeth hon yn helpu i lywio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled gorllewin Cymru.

Am ragor o wybodaeth am Delta CONNECT gallwch gysylltu â'n ymgynghorwyr cyfeillgar ar 0300 333 2222.