19 Mawrth 2025
Delta CONNECT yn ennill y Wobr Trawsnewid Gwasanaeth yng Ngwobrau ITEC 2025
Mae Llesiant Delta wedi ennill y Wobr Trawsnewid Gwasanaeth yng Ngwobrau ITEC 2025 i gydnabod ei wasanaeth CONNECT a'r effaith arbennig y mae'n ei chael ar fywydau pobl ac o ran lleihau pwysau ar draws y sector iechyd a gofal.
Dyma ail wobr y cwmni mewn ychydig ddyddiau, sy'n tynnu sylw at ei ragoriaeth barhaus wrth ddefnyddio Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae prosiect CONNECT Llesiant Delta wedi trawsnewid gofal trwy wella llesiant, cefnogi'r gwaith o ryddhau cleifion o ysbytai, a lleihau'r pwysau ar wasanaethau statudol. Lansiwyd CONNECT fel model gofal cymdeithasol ataliol, ac mae'n defnyddio Gofal trwy Gymorth Technoleg a chymorth cymunedol rhagweithiol i helpu unigolion i fyw gartref yn ddiogel ac yn annibynnol.
Mae'r prosiect wedi tyfu'n sylweddol trwy gydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin i fynd i'r afael â heriau systemig, gan gynnwys oedi mewn trosglwyddiadau gofal a phwysau cynyddol ar wasanaethau ysbytai.
Wrth wraidd y trawsnewidiad hwn mae Byddin Las Llesiant Delta – tîm ymroddedig o staff sydd wedi'u lleoli mewn ysbytai i gefnogi'r gwaith o ryddhau cleifion yn ddiogel ac amserol. Gan weithio ochr yn ochr â threfnwyr rhyddhau cleifion o'r ysbyty a gwasanaeth ymateb cymunedol Llesiant Delta, mae'n sicrhau y gall cleifion ddychwelyd adref cyn gynted ag y byddant yn ffit yn feddygol, gan ryddhau gwelyau mewn ysbytai a lliniaru'r pwysau ar y gwasanaethau rheng flaen.
Darperir pecynnau cymorth Gofal trwy Gymorth Technoleg wedi'u teilwra, gan gynnwys larymau llinell gymorth, synwyryddion cwympo a synwyryddion symud, i sicrhau diogelwch a llesiant unigolion yn eu cartrefi, ac mae'r tîm ymateb cymunedol yn darparu cymorth gofal brys tymor byr hyd nes nad oes ei angen mwyach, neu hyd nes bod pecyn gofal statudol ar waith.
Mae'r dull arloesol hwn wedi lleihau arosiadau mewn ysbytai yn sylweddol ac wedi atal aildderbyniadau, gan ddangos pŵer Gofal trwy Gymorth Technoleg wrth ail-lunio gofal cymdeithasol.
Mae cleifion sy'n cael eu rhyddhau trwy CONNECT yn treulio pum niwrnod yn llai yn yr ysbyty ar gyfartaledd, gan leddfu'n uniongyrchol y pwysau ar wasanaethau iechyd. Mae ffigyrau'n dangos bod 1,295 o ddiwrnodau gwely yn yr ysbyty wedi'u harbed mewn un flwyddyn, sy'n cyfateb i dros hanner miliwn o bunnoedd mewn arbedion cost.
Mae dros 80% o gleientiaid wedi cynnal neu wella eu sgoriau llesiant, ac mae dull rhagweithiol y prosiect wedi lleihau'n sylweddol y defnydd o wasanaethau brys, a dim ond 6% o 20,191 o alwadau ymateb oedd angen eu huwchgyfeirio.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae'r wobr hon yn dyst i ymroddiad a chydweithrediad ein timau a'n partneriaid, sydd wedi ymrwymo i wella canlyniadau i unigolion a thrawsnewid gwasanaethau gofal ledled y rhanbarth.
“Mae'r prosiect CONNECT yn enghraifft wych o sut y gall technoleg, ynghyd â chymorth rhagweithiol, sbarduno newid ystyrlon ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.”
Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac sy'n darparu datrysiadau Gofal trwy Gymorth Technoleg a gwasanaethau cymorth cymunedol arloesol. Ei genhadaeth yw grymuso unigolion i fyw gartref yn annibynnol ac yn ddiogel, gan leihau'r ddibyniaeth ar ofal acíwt a gofal tymor hir.
Mae gwobrau ITEC, sy'n cael eu trefnu gan TSA, corff y diwydiant a’r corff cynghori ar gyfer Gofal trwy Gymorth Technoleg, yn dathlu'r effaith gadarnhaol y mae gwasanaethau TEC yn ei chael ar fywydau miliynau o bobl ledled y DU.