21 Hydref 2021
Dyfarnwyd Llesiant Delta yng Ngwobrau Busnes Bae Abertawe
Mae gwasanaeth CONNECT Llesiant Delta wedi ennill yng Ngwobrau Busnes Bae Abertawe Business Live yn y categori Ffocws Cwsmeriaid.
Ymunodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y gymuned fusnes leol yn y seremoni wobrwyo yn Neuadd Brangwyn ar 21 Hydref i gydnabod a dathlu gwytnwch a chyflawniadau'r rhanbarth. Mae'r gwobrau yn cael eu cynnal gan Reach Plc, WalesOnline a Business Live.
Dywedodd Sion Barry, Golygydd Busnes Media Wales Business Live, "Cafodd gwasanaeth CONNECT Llesiant Delta ei lansio bythefnos cyn y cyfyngiadau symud cyntaf ledled y DU. Fel y prosiect cyntaf o'i fath yn y DU, mae cyflwyno gofal â chymorth digidol yn eang wedi cysylltu mwy na 2,500 o bobl agored i niwed i ofal ataliol, a gwnaethpwyd mwy na 18,500 o alwadau llesiant rhagweithiol yn ystod tri mis cyntaf y prosiect a llawer mwy ers hynny."
Mae Delta CONNECT yn wasanaeth cymorth cofleidiol sy'n cynnwys:
- Asesiad llesiant
- Galwadau llesiant rhagweithiol wedi'u teilwra i'ch anghenion unigol penodol - gallai hyn fod yn ddyddiol, yn wythnosol neu'n fisol
- Pecyn Gofal Trwy Gymorth Technoleg pwrpasol
- Mynediad i dîm ymateb cymunedol priodol 24/7
- Cefnogaeth ddigidol i helpu anwyliaid i gadw mewn cysylltiad a helpu i ail-gysylltu â'r gymuned
Mae'r gwasanaeth hwn, sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn cefnogi unigolion ar draws y rhanbarth.
I gael rhagor o fanylion ynghylch sut y gall CONNECT eich cefnogi chi a'ch teulu ewch i www.deltawellbeing.org.uk neu ffoniwch y tîm Llesiant Delta: 0300 333 2222.