Yn ôl

Galwadau llesiant yn gwneud gwahaniaeth i drigolion ledled gorllewin Cymru

Mae Llesiant Delta wedi gwneud dros 80,000 o alwadau rhagweithiol i gleientiaid CONNECT ers lansio'r gwasanaeth.

Mae'r tîm o ymgynghorwyr cyfeillgar yn cysylltu â'u cleientiaid yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn iawn, gan eu ffonio i gael sgwrs neu ddim ond i ddymuno pen-blwydd hapus iddynt! Maent wrth law 24/7 i roi tawelwch meddwl i deuluoedd drwy gydol y flwyddyn.

Mae Delta CONNECT yn wasanaeth teleofal a llinell gymorth sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Fel rhan o asesiad llesiant cychwynnol y cleient, mae'r tîm yn penderfynu ar becyn cymorth cofleidiol pwrpasol. Gallai'r galwadau rhagweithiol fod yn wythnosol, yn fisol, neu mor aml ag y mae eu hangen.

Mae'n cefnogi nod y prosiect i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn ac agored i niwed, a hefyd i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Mae'r ffigurau ar ddiwedd mis Ebrill 2023 yn dangos bod cyfanswm o 83,317 o alwadau rhagweithiol wedi'u gwneud i gleientiaid a bod 80% wedi gwella neu gynnal eu llesiant cyffredinol.

“Rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth mae Delta yn ei chynnig," meddai un o gleientiaid CONNECT. “Rwyf wedi cael galwadau llesiant gan Carys a Joshua yn ddiweddar ac mae wedi bod yn hyfryd siarad â nhw a Rebecca. Rwy'n credu bod staff Delta yn poeni o ddifrif amdanaf a dyna sy’n aros gyda mi ar ôl fy ngalwadau bob tro.”

Dywedodd cleient arall: “Fe alwodd Louise fi bob wythnos ar ôl fy llawdriniaeth am ganser ac roedd yn fy nghadw i fynd pan oedd pethau'n wael iawn. Roeddwn i'n gwerthfawrogi ac yn edrych ymlaen at ei galwadau gymaint. Rwy' mor ddiolchgar am eich gofal a'r sgyrsiau gawson ni. Diolch Delta am yr holl gymorth."

“Mae'r galwadau cyfeillgar rwy'n eu derbyn wedi bod yn hyfryd ac yn ddymunol bob amser heb unrhyw frys o gwbl," ychwanegodd un arall. “Rwy'n ddiolchgar iawn!”

Fel rhan o CONNECT, mae cleientiaid yn derbyn pecyn gofal trwy gymorth technoleg, yn dibynnu ar eu hanghenion, i gefnogi eu hannibyniaeth. Mae'n cynnwys llinell gymorth a larwm gwddf sy'n cysylltu â'r ganolfan fonitro, gan ddarparu cymorth 24 awr drwy wasgu botwm.

Hefyd mae ganddynt fynediad at dîm ymateb 24/7 a fydd yn mynd i gartref y cleient pan fydd argyfwng yn digwydd, pe bai byth angen hynny.

Dywedodd Carla Dix, Arweinydd Rhaglen Arloesi Strategol Llesiant Delta: “Mae cleientiaid yn cael asesiad manwl sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Mae cynllun llesiant yn cael ei ddatblygu gyda'i gilydd, gan nodi unrhyw gymorth rhagweithiol y gellir ei ddarparu yn ogystal â llwybrau sy'n gallu cynorthwyo o ran unigrwydd, codymau a straen gofalwr, er enghraifft.

“Mae'r cynlluniau hyn yn cael eu monitro drwy ein galwadau llesiant rhagweithiol ac os bydd unrhyw broblemau neu sbardunau ar gyfer argyfwng yn cael eu nodi, yna gallwn weithredu drwy ddarparu cymorth ymarferol.”

I gael gwybod mwy am CONNECT, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd am y tri mis cyntaf, ewch i tudalen hwn neu cysylltwch ag un o'n hymgynghorwyr cyfeillgar drwy ffonio 0300 333 22222.

Man on call