Yn ôl

Mae cleient Delta CONNECT o Sir Benfro sy'n gofalu am ei gŵr wedi diolch am y "tawelwch meddwl" sydd ganddi yn dilyn y cymorth y mae'r ddau wedi'i gael drwy'r gwasanaeth.

*Mrs Rees, sydd â phroblemau iechyd, yn gofalu am ei gŵr awtistig sydd hefyd yn dioddef o afiechyd llesteiriol cronig ar yr ysgyfaint (COPD).

Roedd y ddau wedi symud i'r ardal cyn y cyfyngiadau symud ac yn teimlo wedi'u hynysu.
Heb unrhyw deulu agos na ffrindiau'n byw gerllaw, roedd hi'n pryderu am ei hiechyd a'i diogelwch hi a'i gŵr pe byddent yn mynd yn sâl, yn enwedig o gofio'r risg o ddal y feirws COVID-19.

Cafodd y ddau eu cyfeirio at Llesiant Delta yn dilyn asesiad gofal cychwynnol. O ganlyniad, cawsant gynllun cymorth unigol wedi'i deilwra ar gyfer eu hanghenion penodol, gan
gynnwys llinell gymorth a bocs allwedd. Gwnaethant hefyd gofrestru ar gyfer y prosiect CONNECT sy'n cynnwys offer gofal trwy gymorth technoleg wedi'u teilwra i anghenion
unigol.

 

Fel rhan o'r pecyn CONNECT, roedd y ddau hefyd yn cael galwadau llesiant rheolaidd i gefnogi eu hanghenion lles a llesiant.

 

Mae ganddynt bellach fynediad i gymorth llesiant ehangach a gweithgare ddau i ymgysylltu â'r gymuned leol i'w helpu i beidio â theimlo wedi'u hynysu - yn rhithwir ar hyn o bryd, ond yn gorfforol yn y tymor hir.

Mae hyn yn eu helpu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau, teulu, gofalwyr eraill a grwpiau cymunedol, gan gysylltu unigolion o'r un meddylfryd drwy ddefnyddio'r ap Cysylltu â Llesiant newydd ar lechen ddigidol.

Gallant hefyd gael mynediad i lwybrau cymorth lleol a pherthnasol i sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir pan maent ei angen.

Yn ogystal, mae ganddynt fynediad i wasanaeth Ymateb Cymunedol 24/7 sy'n rhoi cymorth ar gyfer codymau nad ydynt wedi achosi anaf ac anghenion llesiant, gan roi tawelwch meddwl llwyr iddynt o wybod bod cymorth ar gael os bydd ei angen arnynt.

Hefyd, cafodd Mrs Rees gymorth gyda llythyr gwarchod ei gŵr, ei Cherdyn Gofalwr a phecynnau bwyd hanfodol ac maent wedi gallu cael mynediad i wybodaeth i helpu gyda'r gwaith o gynnal a chadw cadair olwyn drydan ei gŵr yn ystod galwad llesiant.

 

"Hoffwn ddiolch i Delta CONNECT am eich holl gefnogaeth," meddai'r Mrs Rees.

 

"Rwy'n ddiolchgar iawn fod gen i rywun i siarad ag ef ac am y cymorth emosiynol a gefais pan oedd fy ngŵr yn sâl. Mae gen i dawelwch meddwl o ganlyniad i'r cymorth a'r offer a
gefais, ac mae hyn wedi arwain at leihau nifer ein galwadau llesiant cychwynnol wythnosol yn rhai misol bellach.

Mae hefyd yn dda gwybod ein bod yn gallu cynyddu nifer y galwadau hyn eto os bydd angen i ni wneud hynny."

Ar ôl i'r offer gofal trwy gymorth technoleg gael eu gosod yn eu cartref, mae cymdogion hefyd wedi mynegi diddordeb mewn defnyddio'r gwasanaeth CONNECT.


*Mae’r enwau wedi'u newid