18 Hydref 2023
Gwasanaeth ymateb Llesiant Delta ar restr fer Gwobrau Caring UK
Mae tîm ymateb cymunedol Llesiant Delta wedi’i enwebu ar gyfer gwobr genedlaethol fawreddog.
Mae'r gwasanaeth ymateb 24 awr wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr am y Fenter Orau mewn Gofal yng Ngwobrau blynyddol Caring UK, sydd bellach yn eu chweched flwyddyn, ac sy'n cydnabod rhagoriaeth a chyflawniad yn y sector gofal ledled y DU.
Dyma’r cyntaf o'i fath i gael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae'n wasanaeth unigryw sy'n torri tir newydd gan ddarparu 'pontio brys' i gynorthwyo cleifion yn y gymuned o ran gofal cartref ac anghenion eraill, a’u helpu i osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty, ynghyd â galluogi pobl i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach.
Mae'r tîm yn cynorthwyo cleifion i ddychwelyd adref o'r ysbyty trwy ddarparu gofal am gyfnod byr hyd nes bod darparwyr ailalluogi neu ddarparwyr tymor hir ar waith; ynghyd â darparu cymorth gofal cymdeithasol brys i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd gofalu am eu hanwyliaid wrth iddynt aros am asesiadau pellach, cynnydd yn y ddarpariaeth gofal, neu’r rhai sydd angen cymorth ychwanegol yn y tymor byr yn unig.
Mae’r cleientiaid yn cael technoleg gynorthwyol, megis llinellau cymorth, fel bod ganddynt fynediad i'r ganolfan fonitro 24/7, ac os oes unrhyw bryderon, eu bod yn dirywio’n sydyn neu eu bod yn cael argyfwng, mae’r tîm ymateb yn cael ei anfon ar unwaith.
Mae’r staff wedi’u hyfforddi'n llawn o ran cymorth cyntaf a chynnal bywyd sylfaenol, a gallant gynorthwyo â'r holl anghenion gofal personol, er enghraifft paratoi prydau bwyd a rhoi meddyginiaeth, yn ogystal â helpu gyda siopa bwyd neu ddarparu gwasanaeth eistedd gyda phobl ar fyr rybudd.
Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gynorthwyo pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Llongyfarchiadau enfawr i dîm ymateb Llesiant Delta am gyrraedd rhestr fer Gwobrau Caring UK, sy'n dyst i holl waith caled ac ymrwymiad y tîm.
"Mae Llesiant Delta’n gweithio’n agos mewn modd arloesol gyda'r bwrdd iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi anghenion preswylwyr yn y cartref hyd nes bod pecyn ailalluogi neu becyn gofal tymor hir ar waith, gan helpu i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd preswylwyr ledled Sir Gaerfyrddin."
Trefnir y gwobrau gan Script Events ar y cyd â Caring UK, sef cylchgrawn blaenllaw yn y diwydiant gofal, gyda chefnogaeth gan Virgin Money, sef y prif noddwr.
Ym mhob categori mae hyd at saith yn y rownd derfynol wedi'u dewis i fynd i gam nesaf y broses feirniadu.
Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo ysblennydd yn The Athena yng Nghaerlŷr ddydd Iau, 7 Rhagfyr pan fydd y diwydiant yn ymgynnull i gydnabod popeth sy'n wych am y sector gofal.