Yn ôl

Gwasanaeth ymateb Llesiant Delta yn cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru

Mae gwasanaeth ymateb Llesiant Delta bellach wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel gwasanaeth cymorth gofal cartref, y cyntaf o'i fath yng Nghymru.  

Fel rheoleiddiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cofrestru gwasanaethau gofal o ansawdd da gan wella ansawdd gwasanaethau er hybu llesiant pobl yng Nghymru.  

Mae'r tîm ymateb cymunedol yn rhan annatod o Delta CONNECT, sef gwasanaeth cymorth cofleidiol sy'n darparu monitro 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i gleientiaid ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, a Cheredigion. Yn ogystal â'r gwasanaeth ymateb brys 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, mae hefyd yn cynnwys galwadau llesiant rhagweithiol, ac offer Gofal trwy Gymorth Technoleg Pwrpasol (TEC). 

Mae pecynnau Gofal trwy Gymorth Technoleg Llesiant Delta yn cynnwys larwm llinell gymorth fel y gall pobl gael help drwy wasgu botwm yn unig, ac ystod o offer technoleg gynorthwyol wedi'i deilwra ar gyfer anghenion y cwsmer, megis oriorau olrhain GPS, synwyryddion epilepsi, peiriannau meddyginiaethau, synwyryddion drysau, synwyryddion gwely, llechi digidol, a mwy. Gall y gwasanaeth ddarparu ateb digidol i bron unrhyw gyflwr neu angen. 

Mae'r tîm Ymateb Cymunedol yn ymateb pan fo cleient yn seinio'r larwm gan ddefnyddio'r offer Gofal trwy Gymorth Technoleg yn ei gartref. 

Gan weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae'r tîm hefyd yn cefnogi cleifion i ddychwelyd adref o'r ysbyty drwy ddarparu  gofal am gyfnod byr hyd nes y gellir cael darparwyr ail-alluogi neu ddarparwyr hirdymor. Mae hefyd yn darparu ymateb brys neu wasanaeth pontio i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd gofalu am eu hanwyliaid wrth iddynt aros am asesiadau pellach neu gynnydd yn y ddarpariaeth gofal, neu'r rhai sydd angen cymorth gofal cymdeithasol ychwanegol yn y tymor byr. Os oes unrhyw bryderon ynghylch gofal yn methu, dirywiad sydyn, argyfyngau neu bryderon ynghylch lefel y gofal sydd ei angen, bydd y tîm Ymateb Cyflym 24/7 yn cael ei anfon i gynnig cymorth yn ystod y cyfnod hwn. 

I weld yr adroddiad arolygu diweddaraf, ewch i www.arolygiaethgofal.cymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, anfonwch neges e-bost at info@deltawellbeing.org.uk neu ffoniwch 0300 333 2222. 

Car