06 Mai 2025
Gweinidog Cymru yn ymweld â Llesiant Delta a'r tîm Gartref yn Gyntaf sy'n arwain gofal cydgysylltiedig yn y cartref
Mae Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Cymru, Dawn Bowden AS, wedi ymweld â Llesiant Delta a'r tîm Gartref yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin i weld sut maen nhw'n trawsnewid gofal i bobl – gan eu helpu i adael yr ysbyty'n ddiogel neu osgoi cael eu derbyn yn y lle cyntaf.
Tynnodd yr ymweliad sylw at y bartneriaeth gref rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin, Llesiant Delta ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – sydd i gyd yn gweithio gyda'i gilydd fel rhan o dîm cydweithredol i ddarparu gofal priodol naill ai gartref neu mor agos i gartref â phosibl.
Bu'r Gweinidog ar daith o ganolfan derbyn a monitro larymau 24/7 Llesiant Delta, cyn cwrdd ag aelodau tîm amlddisgyblaeth Gartref yn Gyntaf, sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion, meddygon teulu, parafeddygon, nyrsys, dietegwyr, staff ailalluogi, a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal cymunedol.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: “Mae'r bartneriaeth arloesol rhwng Llesiant Delta a'r tîm Gartref yn Gyntaf wedi creu argraff arna i. Mae'r ymagwedd gydweithredol hon, drwy gyllid Llywodraeth Cymru fel y Gronfa Integreiddio Ranbarthol, yn helpu pobl i aros yn annibynnol gartref ac yn cefnogi rhyddhau o ysbytai mewn modd mwy diogel ac amserol.
“Mae'n dangos sut gall cydweithio effeithiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol ddarparu canlyniadau gwell i bobl wrth wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau.”
Mae Llesiant Delta, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, yn defnyddio technoleg gynorthwyol ac yn darparu cymorth rhagweithiol i helpu pobl i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref am gyhyd â phosibl.
Mae staff Byddin Las Llesiant Delta yn cefnogi'r ymagwedd hon yn yr ysbytai, ac maent yn gweithio'n agos gyda staff y ward i nodi'r cleifion sy'n barod i fynd adref. Maent yn gwneud yn siŵr bod popeth yn ei le i gefnogi rhyddhau cleifion yn ddidrafferth ac yn ddiogel, gan weithio'n agos gyda'r tîm Gartref yn Gyntaf a thîm ymateb cymunedol Llesiant Delta a all helpu i gludo cleifion gartref a'u setlo yn ôl i mewn, ac, yn hanfodol, darparu hyd at saith diwrnod o ofal pontio brys i'r rhai sy'n aros i ddechrau pecyn gofal ailalluogi neu becyn gofal mwy tymor hir.
Gyda'i gilydd, mae'r timau hyn yn cael effaith wirioneddol – lleihau'r pwysau ar y GIG trwy helpu i leihau derbyniadau i'r ysbyty a chyflymu rhyddhau, ac yn bwysicaf oll, sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen yn y lle sy'n iawn iddyn nhw.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Roedd yn bleser croesawu'r Gweinidog a rhannu mwy am yr ymagwedd arloesol ac effeithiol sy'n cael ei darparu trwy'r cydweithio rhwng yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd a Llesiant Delta. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym ni'n sicrhau bod pobl yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.
“Mae Llesiant Delta yn helpu i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a sicrhau proses ryddhau fwy hwylus trwy ddarparu gofal brys tymor byr nes bod cymorth tymor hir yn ei le. Mae hyn nid yn unig yn cefnogi cleifion i aros gartref yn ddiogel ond hefyd yn helpu i ryddhau lle mewn ysbytai, gan godi'r pwysau sydd ar staff rheng flaen a sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio'n effeithiol. Mae'r bartneriaeth hon yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ddarparu gofal rhagweithiol, ataliol.
Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Meddygaeth Gymunedol ac Integredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Pleser oedd cael dweud wrth Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud i gefnogi ein menter Gartref yn Gyntaf. Mae'n dangos gweithio mewn partneriaeth ar ei orau ac rydym yn gweld rhai canlyniadau cadarnhaol iawn yn sgil y dull hwn o ymdrin â gofal iechyd. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n gadarnhaol gyda'n partneriaid yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, Llesiant Delta, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac ystod o bartneriaid trydydd sector.”