Yn ôl

Gwobr Arian am Arloesi ar gyfer Gwasanaeth Delta CONNECT

Mae Llesiant Delta wedi ennill gwobr arian yn y categori arloesi yng Ngwobrau Trawsnewid y Sector Cyhoeddus iESE 2021. 

Roedd y wobr am ddatblygu a chyflwyno technolegau a chyfleusterau arloesol newydd drwy Delta CONNECT, sydd wedi bod yn trawsnewid y gwaith o ddarparu gwasanaeth cyhoeddus lleol Llesiant Delta. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, sef Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rydym wrth ein bodd bod gwasanaeth Delta CONNECT wedi cael cydnabyddiaeth yn y gwobrau eleni. 

"Fel Cyngor, gwnaethom gydnabod gwerth Gofal Trwy Gymorth Technoleg ychydig flynyddoedd yn ôl a'i botensial i gefnogi'r heriau yr oedd ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, ac felly rhoesom flaenoriaeth i drawsnewid y gwasanaeth. Yn fwy diweddar mae wedi bod wrth wraidd ein hymateb Covid, gan ein galluogi i ddiogelu'r 8,000 o bobl sy'n gwarchod trwy gyfrwng galwadau rhagweithiol, bwyd, meddyginiaeth a chymorth ymarferol wedi'i frysbennu.” 

Mae gwasanaeth cymorth cofleidiol Delta CONNECT ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n cynnwys galwadau llesiant, pecynnau Gofal trwy Gymorth Technoleg wedi'u teilwra i anghenion unigolion, mynediad 24/7 i’r Tîm Ymateb Cymunedol a chymorth digidol i helpu anwyliaid i gadw mewn cysylltiad. 

Ariannwyd y prosiect peilot gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, gan alluogi Bwrdd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru - sy'n dwyn ynghyd Cynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chynrychiolwyr y trydydd sector a'r sector annibynnol - i weithio gyda'i gilydd i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled gorllewin Cymru. 

Ewch i www.llesiantdelta.org.uk i gael gwybod mwy neu ffoniwch ein hymgynghorwyr cyfeillgar: 0300 333 2222.

Couple