27 Mawrth 2024
Gwobr gofal genedlaethol o fri i Llesiant Delta am roi pobl yn gyntaf
Mae Llesiant Delta yn dathlu ar ôl ennill gwobr gofal genedlaethol o fri am ei waith yn cefnogi preswylwyr i aros gartref.
Mae'r cwmni, sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro a chymorth rhagweithiol i bobl hŷn ac agored i niwed er mwyn iddynt allu byw yn fwy annibynnol, wedi ennill y Wobr Rhoi Pobl yn Gyntaf yn rownd genedlaethol y 'Great British Care Awards'.
Mae'r gwobrau'n dathlu rhagoriaeth ar draws sector gofal cymdeithasol y DU gan gydnabod gwaith staff rheng flaen megis gweithwyr gofal a rheolwyr gofal, a'r bobl hynny sydd wedi cael dylanwad mewn ffyrdd eraill megis hyfforddiant ac arloesi.
Mae gwasanaeth ymateb cymunedol 24 awr Llesiant Delta a'r Fyddin Las mewn ysbytai yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gefnogi preswylwyr yn y gymuned gyda'u hanghenion am ofal cartref ac anghenion eraill, gan eu helpu i ddychwelyd adref o'r ysbyty neu osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty.
Y gwasanaeth ymateb yw'r cyntaf o'i fath i gael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, gan gefnogi cleifion i ddychwelyd adref o'r ysbyty drwy ddarparu gofal am gyfnod byr hyd nes y bydd darparwyr ail-alluogi neu ddarparwyr hirdymor ar gael.
Mae'r tîm hefyd yn darparu cymorth gofal cymdeithasol brys i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd gofalu am eu hanwyliaid wrth ddisgwyl am asesiadau pellach, cynnydd yn y ddarpariaeth gofal, neu sydd angen cymorth ychwanegol yn y tymor byr.
Mae'r staff wedi cael hyfforddiant llawn mewn cymorth cyntaf a chymorth bywyd sylfaenol, a gallant gynorthwyo gyda holl anghenion gofal personol, paratoi prydau bwyd a rhoi meddyginiaeth, yn ogystal â helpu gyda siopa bwyd ac unrhyw ddarpariaeth frys arall. Mae hyn yn cynorthwyo'r unigolyn i adennill ei gryfder a'i annibyniaeth ac aros gartref cyhyd ag y bo modd, gan osgoi cael ei dderbyn yn ddiangen i'r ysbyty.
Dywedodd Sarah Vaughan, Rheolwr Ymateb: “Rydym wrth ein bodd bod ein tîm ymateb cymunedol a'n swyddogion llesiant mewn ysbytai gyda'i gilydd wedi cael eu hanrhydeddu â gwobr genedlaethol o fri am ein hymrwymiad i roi pobl yn gyntaf.
“Allwn i ddim bod yn fwy balch o'n tîm anhygoel, mae eu hymroddiad, eu caredigrwydd a'u hymdrechion diflino wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cymaint o bobl. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dyst i'w gwaith caled a'u hymrwymiad diwyro i'n cymuned. Gyda'n gilydd rydyn ni wedi dangos, pan fyddwn ni'n rhoi pobl yn gyntaf, bod pethau anhygoel yn digwydd.
“Hoffwn ddiolch i bob aelod o'n tîm am eich brwdfrydedd, eich cryfder a'ch ymroddiad. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu eich ymdrechion rhagorol, ac rwy'n hynod falch o gael gweithio ochr yn ochr ag unigolion mor anhygoel. Llongyfarchiadau.”
Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol ym mherchnogaeth lwyr Cyngor Sir Caerfyrddin.