29 Mai 2024
Gwobrau Balchder Cymru 2024
Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n mynd yr ail filltir yn ddyddiol i sicrhau lles a chysur y rhai sydd yn eu gofal?
Rhowch y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu ac enwebwch nhw ar gyfer Gwobrau Balchder Cymru 2024 Nation Radio.
Mae’n bleser gennym noddi categori Gofalwr y Flwyddyn, sy’n anrhydeddu unigolion anhunanol yn ein cymunedau sy’n cysegru eu bywydau i ofalu am eraill.
P’un a ydyn nhw’n ofalwyr proffesiynol, yn aelodau o’r teulu neu’n wirfoddolwyr, rydyn ni am anrhydeddu’r arwyr di-glod hyn sy’n mynd gam ymhellach bob dydd i sicrhau lles a chysur y rhai sydd yn eu gofal.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe ddydd Iau, Gorffennaf 11.
Mae'r enwebiadau bellach wedi cau.