Yn ôl

Helpu pobl hŷn i gadw'n gynnes y gaeaf hwn

Mae gwasanaeth newydd wedi'i lansio gan Ofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin i helpu pobl hŷn ledled y sir i gadw'n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartrefi a lleihau eu biliau ynni. 

Mae'r fenter Hynach nid Oerach yn cynnig asesiadau ynni cartref, cyngor arbenigol a chymorth ymarferol i wella effeithlonrwydd ynni cartref a lleihau costau gwresogi i breswylwyr 60 oed a hŷn sydd naill ai'n berchen ar eu cartref neu'n rhentu'n breifat. 

Bydd Swyddogion Ynni Cartref Gofal a Thrwsio yn ymweld ac yn asesu cartrefi am ddim a gallant gynorthwyo i gael cyllid os oes angen gwneud atgyweiriadau neu welliannau. 

Fel rhan o'r fenter hon, mae Llesiant Delta wedi ymuno â Gofal a Thrwsio i ddosbarthu 'bagiau cynnes' i bobl hŷn fregus yn y gymuned. Bydd swyddogion ymateb Llesiant Delta yn dosbarthu'r pecynnau hanfodol hyn yn ystod ymweliadau cartref, gan sicrhau bod y rhai sydd mewn angen yn derbyn cymorth ar fyrder a gwybodaeth am y gwasanaeth am ddim 'Hynach nid Oerach' i gael cymorth pellach. 

Mae'r bagiau cynnes yn cynnwys eitemau hanfodol ar gyfer y gaeaf gan gynnwys cynheswyr dwylo, thermomedr, sanau thermol, mwg teithio, het a menig, potel ddŵr poeth a blanced fawr.

Mae Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i gefnogi pobl hŷn i fyw mewn cartrefi diogel, cynnes a chyfforddus sy'n addas i'w hanghenion ac sy'n gwella eu hannibyniaeth. Mae'n cynnig nifer o wasanaethau i gynorthwyo unigolion hŷn i atgyweirio, gwella a chyflwyno addasiadau i'w cartrefi, gan ddarparu cyngor arbenigol, cefnogaeth a chymorth ymarferol. 

Mae Llesiant Delta, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, yn darparu technoleg gynorthwyol a gwasanaeth monitro a chymorth rhagweithiol i bobl hŷn a phobl agored i niwed. Mae hefyd yn darparu un pwynt mynediad ar gyfer gwybodaeth a chyngor iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y sir. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Bydd y fenter hon yn darparu cymorth mawr ei angen i bobl hŷn yn ein cymuned, gan sicrhau eu bod yn cadw'n gynnes ac yn ddiogel yn ystod misoedd y gaeaf. Ni ddylai neb orfod dewis rhwng gwresogi eu cartref a hanfodion eraill, ac rydym yma i helpu." 
Ariennir y fenter 'Hynach nid Oerach' drwy gronfa Lwfans Bregusrwydd a Charbon Monocsid (VCMA)Wales & West Utilities, gan atgyfnerthu ymrwymiad i gadw unigolion sy'n agored i niwed yn ddiogel ac yn gynnes yn ystod y misoedd oerach. 

Mae'r gwasanaeth yn darparu:

  • Ymweliadau ac asesiadau cartref am ddim
  • Cyngor ar wella effeithlonrwydd ynni cartref
  • Canllawiau i'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni 
  • Cymorth i gael mynediad i'r Rhaglen Cartrefi Cynnes
  • Cymorth i hawlio budd-daliadau cymwys
  • Help i wneud cais am grantiau i gadw cartrefi'n gynnes 

I wneud cais am ymweliad am ddim, ffoniwch Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin ar 01554 744300.