Yn ôl

Lansio gwasanaeth ymateb symudol - llinell gymorth 24/7 yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae gwasanaeth ymateb symudol 24/7 newydd wedi'i lansio i gefnogi defnyddwyr larwm llinell gymorth yng Nghastell-nedd Port Talbot yn sgil partneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Llesiant Delta.

Mae'r rhaglen beilot blwyddyn yn cynyddu'r cymorth a ddarperir i ddefnyddwyr gwasanaeth llinell gymorth y cyngor.

Bydd swyddogion ymateb sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn cael eu hanfon yn gyflym i gynorthwyo defnyddwyr mewn sefyllfaoedd argyfwng anfeddygol yn eu cartrefi eu hunain, fel codwm nad yw'n achosi anaf.

Nod y gwasanaeth ymateb symudol yw sicrhau y gall pobl gael yr help cywir yn gyflym pan fo angen, yn enwedig yn ystod argyfyngau anfeddygol; darparu gwell diogelwch yn ogystal ag annibyniaeth barhaus gartref. 

Mae Tîm Technoleg Gynorthwyol Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi partneru â Llesiant Delta, y darparwr monitro galwadau presennol ar gyfer gwasanaeth llinell gymorth y cyngor, ar gyfer y cynllun peilot. Mae hyn yn sicrhau cyn lleied o darfu ar brofiad y gwasanaeth wrth gyflwyno'r opsiwn o gael ymatebwr hyfforddedig i fynd i gartrefi defnyddwyr pan fo angen.

Mae'r gwasanaeth ymateb symudol yn cynnwys:

  • Cymorth 24/7: Mae ymatebwyr hyfforddedig ar alwad ddydd a nos, gan sicrhau cymorth prydlon.
  • Cymorth yn ystod argyfwng anfeddygol: Gall defnyddwyr sy'n wynebu argyfyngau anfeddygol ddibynnu ar y gwasanaeth hwn am ymateb amserol.
  • Diogelwch ac annibyniaeth: Mae'r gwasanaeth ymateb symudol yn hyrwyddo diogelwch ac annibyniaeth i ddefnyddwyr llinell gymorth.
  • Dim tâl ychwanegol: Yn ystod y cyfnod peilot (hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025), gall defnyddwyr llinell gymorth gael mynediad at y gwasanaeth ymateb ychwanegol hwn heb unrhyw gost ychwanegol.

Os bydd unrhyw argyfyngau meddygol, bydd y gwasanaethau brys perthnasol yn cael eu galw fel arfer. Fodd bynnag, mae ffigurau Llesiant Delta yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y galwadau sy'n cael eu cyfeirio at y gwasanaethau meddygol brys lle mae gwasanaeth ymateb penodol ar waith, ac roedd angen ambiwlans ar 6% o alwadau yn unig. Ar ben hynny, mae swyddogion ymateb wedi mynd i 92% o'r holl alwadau o fewn 60 munud ar draws y sir.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei werthuso yn dilyn y cynllun peilot, a rhoddir ystyriaeth o ran lefelau ffioedd priodol y tu hwnt i fis Mawrth 2025. Bydd defnyddwyr yn cael gwybod cyn unrhyw newidiadau i'r taliadau.

Dywedodd y Cynghorydd Jo Hale, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Oedolion Castell-nedd Port Talbot: “Mae cyflwyno'r gwasanaeth ymateb symudol 24/7 yn welliant sylweddol i ddefnyddwyr presennol ein gwasanaeth llinell gymorth. Mae'r fenter hon yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i sicrhau diogelwch a llesiant ein preswylwyr.

“Mae ein gwasanaeth technoleg gynorthwyol yn ymdrechu i ddarparu cefnogaeth amserol ac effeithiol, a thrwy hynny hyrwyddo annibyniaeth a chynnig sicrwydd i ddefnyddwyr a'u teuluoedd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli Llesiant Delta, Samantha Watkins: “Rydym yn falch iawn o ymestyn ein partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot i wella'r cymorth a ddarperir i'w ddefnyddwyr llinell gymorth gyda mynediad at wasanaeth ymateb symudol.  

“Rydym wedi gweld yn uniongyrchol effaith gadarnhaol cael gwasanaeth o'r fath ar waith, gan roi tawelwch meddwl a sicrwydd bod cymorth ar gael 24/7, 365 diwrnod o'r flwyddyn, a chefnogi preswylwyr i gynnal annibyniaeth ac aros yn ddiogel gartref.

“Mae'r gwasanaeth hefyd yn helpu i atal arosiadau diangen yn yr ysbyty a defnydd diangen o ambiwlansys, ac mae'n sicrhau nad yw unigolion sy'n cael codwm gartref yn gorwedd ar y llawr am gyfnod hir. Mae ymchwil yn dangos y gall gael effaith negyddol ar annibyniaeth ac ansawdd bywyd, ac mae rhywun sy'n cael ei adael yn gorwedd ar y llawr am dros awr yn fwy tebygol o ddioddef anafiadau difrifol a chael ei dderbyn i'r ysbyty, ac wedyn ei symud i ofal hirdymor.

“Mae gallu cyrraedd unigolion yn gyflym a'u codi oddi ar y llawr nid yn unig yn rhoi'r canlyniadau gorau iddyn nhw, ond gall hefyd gael effaith sylweddol o ran lleihau, ac, mewn rhai achosion, atal, yr angen am gefnogaeth a gofal parhaus."

Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol.  Ers cael ei sefydlu yn 2018, mae wedi ehangu ei wasanaethau yng Nghymru gan ddefnyddio Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) i ddarparu amrywiaeth o atebion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac i gefnogi cleifion sy'n gadael yr ysbyty yn ogystal â rhai yn y gymuned.