29 Mawrth 2023
Llesiant Delta a Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ennill gwobr 'Partneriaethau mewn TEC' ar gyfer prosiect teleiechyd
Mae prosiect teleiechyd sy'n cefnogi cleifion ledled gorllewin Cymru i reoli eu hiechyd a sicrhau eu bod yn barod am lawdriniaeth wedi ennill gwobr yn y diwydiant am ei arloesedd.
Mae Llesiant Delta a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn y wobr Partneriaethau mewn TEC yng Ngwobrau ITEC 2023.
Mae'r gwobrau, sy'n cael eu trefnu gan TSA, corff y diwydiant a’r corff cynghori ar gyfer Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) yn y DU, yn dathlu arloesedd yn y sector a'r effaith gadarnhaol y mae TEC yn ei chael ar fywydau miliynau o bobl yn y DU.
Lansiwyd y prosiect teleiechyd i gefnogi cleifion ar draws y rhanbarth i fonitro gweithrediad cardiaidd, gweithrediad yr ysgyfaint, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint o bell o'u cartrefi eu hunain gan ddefnyddio ystod o offer iechyd wedi ei gysylltu ag ap ffôn symudol.
Cafodd ei ehangu ymhellach i gynnwys cleifion orthopedig sy'n aros am lawdriniaeth yn dilyn pandemig COVID, a oedd wedi achosi oedi sylweddol ar ddarpariaeth gofal gynlluniedig, gan effeithio ar lesiant corfforol a seicolegol cleifion, a chynyddu'r baich ar wasanaethau gofal iechyd.
Bu i Lesiant Delta weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill i ddarparu gwasanaeth cyn-gymorth cost-effeithiol, diogel ac effeithiol gyda datrysiadau digidol lluosog i gefnogi ac optimeiddio iechyd a llesiant cleifion wrth iddynt aros am lawdriniaeth.
Mae hyn wedi arwain at lai o lawdriniaethau wedi'u canslo, lleihad o ran hyd arosiadau ysbyty ar gyfer y driniaeth; ac mae wedi gwella iechyd a llesiant cyffredinol cleifion.
Drwy fonitro cleifion o bell, mae'r tîm clinigol yn gallu adnabod cleifion sy'n dioddef o bwysau gwaed uchel tra ar y rhestr aros; a thrwy adnabod a chyfeirio'n gynnar at ofal sylfaenol, gall y cleifion hyn reoli eu hiechyd, gan leihau nifer y gweithdrefnau sy'n cael eu canslo'n ddiweddarach.
Drwy fonitro symptomau yr adroddir arnynt ar y platfform, gall y tîm clinigol nodi unrhyw gefnogaeth y gallai fod ei angen ar y claf; a'i gyfeirio at y tîm llawfeddygol os oes angen.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, sef Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae'r prosiect hwn yn trawsnewid y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu gan ddefnyddio technoleg i helpu cleifion i reoli eu cyflwr, cynnal eu hiechyd a'u llesiant ac i fyw yn annibynnol.
“Mae'n gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd bywyd cleifion ac i'r GIG ei hun, o ran lleihau nifer yr apwyntiadau sy'n cael eu colli a gweithdrefnau sy'n cael eu canslo.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb ar ennill y wobr yma.”
Meddai Rhian Matthews, Cyfarwyddwr System Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Technoleg trwy Gymorth Technoleg gan gynnwys Teleiechyd yn darparu manteision gwych i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â Llesiant Delta i wella canlyniadau i'n poblogaeth.”
Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Delta Wellbeing, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n defnyddio technoleg arloesol i ddarparu amrywiaeth o atebion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gan gefnogi pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol.
Rhagor o wybodaeth am Wobrau ITEC.