Yn ôl

Llesiant Delta a CGI yw cyd-noddwyr Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol 2023

Mae Llesiant Delta yn falch iawn o gyhoeddi ei fod yn gyd-noddwr y Gynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol ynghyd â'i bartner trawsnewid digidol, CGI.

NSCC23 yw prif ddigwyddiad gofal cymdeithasol Cymru ac mae'n dychwelyd ddydd Mercher, 11 Hydref a dydd Iau, 12 Hydref yn Venue Cymru yn Llandudno.

Mae'r gynhadledd, a gynhelir gan ADSS Cymru (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru), gyda chymorth busnes gan Practice Solutions, yn gyfle i'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ddod ynghyd i rannu barn a syniadau.

Technoleg mewn gofal cymdeithasol yw un o themâu NSCC23 ynghyd ag ymyrraeth gynnar ac atal, ac mae nawdd gan Lesiant Delta a CGI yn cefnogi'r rhaglen fel enghraifft o waith arloesol yn y maes hwn.

Dywedodd Samantha Watkins, Cyfarwyddwr Rheoli Llesiant Delta: "Rydym yn hynod falch ac wedi ein cyffroi o gael bod yn gyd-noddwr y Gynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol (NSCC23) gyda CGI.

“Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol.

"Ers sefydlu'r cwmni yn 2018, rydym wedi ehangu ein gwasanaethau i ddarparu ystod o atebion arloesol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan drawsnewid y ffordd mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ledled gorllewin Cymru trwy weithredu model newydd o hunangymorth a gofalrhagweithiol.

"Rydym yn angerddol tu hwnt ynghylch beth rydym yn ei wneud, gan ddarparu un pwynt mynediad ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, a chefnogi cleifion sy'n gadael lleoliadau acíwt yn ogystal ag yn y gymuned, gyda'n 'Byddin Las' yn yr ysbyty a'n gwasanaeth ymateb 24/7, y cyntaf o'i fath i gael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

"Ymyrraeth gynnar ac atal a'r defnydd o dechnoleg ddigidol yw prif thema'r gynhadledd eleni, ac ni allai fod yn fwy perthnasol.

"Bydd ein partneriaeth â CGI yn ein helpu i ddarparu gofal a chymorth mwy clyfar, personol, gan ddatblygu ymagwedd system gyfan at y continwwm gofal, a sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran yr hyn sy'n gallu cael ei wneud nawr ac yn y dyfodol."

Dywedodd Justene Ewing, Is-lywydd CGI: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at noddi cynhadledd NSCC23 ochr yn ochr â'n partner, Llesiant Delta. Bydd yn gyfle gwych i arddangos cwmpas ein partneriaeth flaengar i gefnogi’r gwaith pontio o wasanaethau iechyd a gofal iechyd a gofal analog i ddigidol yn y cartref, a helpu i sefydlu Cymru fel y cynllun braenaru cenedlaethol mewn gwasanaethau iechyd a gofal yn y cartref gwirioneddol integredig.

“Hefyd, yn bersonol, rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at rannu gweledigaeth CGI ar gyfer iechyd a gofal wedi'i hwyluso gan ddata a phobl, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau'r system gyfan ac sy'n gallu darparu'r lefel gywir o ofal i bawb, ar yr adeg iawn a chan y bobl iawn.

“Yn CGI, rydym yn cyfuno ein harbenigedd mewn diwydiant byd-eang a'n datrysiadau arloesol â'n gwybodaeth leol am yr heriau gwirioneddol sy'n wynebu sefydliadau iechyd a gofal, ynghyd â'n huchelgais cynhenid i gydweithio â'n cleientiaid i ddod o hyd i'r atebion cywir i'w problemau.”

Bydd y gynhadledd yn cynnwys siaradwyr arbenigol ac ysbrydoledig ym maes gofal cymdeithasol a thu hwnt, yn ogystal â gweithdai wedi'u teilwra ar gyfer meysydd arbenigedd penodol.

Bydd rhywbeth at ddant pawb; ar gyfer staff rheng flaen sy'n darparu gofal a chymorth, rheolwyr, ac uwch wneuthurwyr penderfyniadau mewn llywodraeth leol a chenedlaethol, yn ogystal â myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Mae tocynnau'r gynhadledd ar werth nawr ac yn gwerthu'n gyflym; ewch i wefan NSCC i gael y manylion yn llawn. Eleni, mae ADSS Cymru yn cynnig cyfle i uwch-arweinwyr enwebu pobl y maent yn credu sy'n ddarpar arweinwyr ym maes gofal cymdeithasol i elwa ar bris tocyn gostyngedig. Anfonwch neges e-bost at contact@adss.cymru i gael rhagor o fanylion.

Cofrestrwch ar gyfer llythyr newyddion ADSS Cymru.  

Dilynwch @ADSSCymru #NSCC23 i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Twitter a LinkedIn. 

Ynghylch Llesiant Delta a CGI

Mae CGI a Llesiant Delta yn bartneriaid i wella iechyd a gofal cymdeithasol yng ngorllewin Cymru trwy drawsnewid digidol.  

Ffocws cychwynnol y bartneriaeth fydd digideiddio gwasanaethau teleofal Llesiant Delta i baratoi ar gyfer diffodd analog yn 2025.

Mae eu cyd-weledigaeth o gefnogi pobl i fyw'n annibynnol a galluogi unigolion i helpu eu hunain wrth wraidd eu partneriaeth.

Sponsers