Yn ôl

Llesiant Delta ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr genedlaethol

Mae Llesiant Delta wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng ngwobrau mawreddog Caring UK Awards. 

Mae'r cwmni wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categorïau Cyflogwr y Flwyddyn ac Ymrwymiad i Hyfforddiant a Datblygiad.

Mae'r gwobrau'n cydnabod rhagoriaeth a chyflawniad o fewn y sector gofal ledled y DU.
Gwasanaeth ymateb cymunedol arloesol Llesiant Delta yw'r cyntaf o'i fath i gael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae'n darparu cefnogaeth hanfodol i breswylwyr, gan helpu i atal derbyniadau i'r ysbyty a galluogi pobl i fyw'n annibynnol.

Mae'n gwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac yn arbenigo ar ddarparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi unigolion hŷn ac agored i niwed i gynnal eu hannibyniaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr genedlaethol yn dyst i ddull arloesol Llesiant Delta, yr ymrwymiad pendant i'n cymunedau ac i hyfforddiant a datblygiad ei staff; gan dynnu sylw at natur eithriadol y gwasanaethau, sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein preswylwyr mwyaf agored i niwed.

“Mae'r cydweithio agos rhwng Llesiant Delta, gwasanaethau cymdeithasol y cyngor, a'r bwrdd iechyd yn sicrhau bod preswylwyr yn derbyn gofal cynhwysfawr gartref. Mae'r dull hwn nid yn unig yn atal derbyniadau diangen i'r ysbyty ond hefyd yn hyrwyddo annibyniaeth a llesiant.

“Rwyf am estyn fy llongyfarchiadau mawr i'r tîm cyfan. Mae ymroddiad y tîm, hyd yn oed mewn amgylchiadau heriol, yn parhau i ysbrydoli. Maent yn gyson yn mynd yr ail filltir i'w cleientiaid, gan wella ansawdd bywyd y rhai y maent yn eu gwasanaethu'n sylweddol.”

Trefnir y gwobrau gan Script Events ar y cyd â chylchgrawn blaenllaw'r diwydiant gofal sef Caring UK, gyda chefnogaeth y prif noddwr Virgin Money. 
M

ae hyd at saith o’r  rownd derfynol wedi cael eu dewis ym mhob categori i fynd drwodd i gam nesaf y broses feirniadu. 

Dywedodd cyfarwyddwr digwyddiadau Caring UK Awards Dominic Musgrave: “Mae gwobrau Caring UK bellach yn ei seithfed flwyddyn a gyda mwy o geisiadau nag erioed o'r blaen, mae gan ein cystadleuwyr yn y rownd derfynol reswm dros ddathlu hefyd gan ei bod yn dipyn o gamp i gyrraedd y rhestr fer ac mae'n glod i'r timau.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn The Athena yng Nghaerlŷr ddydd Iau, 5 Rhagfyr pan fydd y diwydiant yn ymgynnull i ddathlu popeth sy'n wych am y sector gofal.