18 Hydref 2022
Mae Llesiant Delta Wellbeing wedi ennill y safonau uchaf posibl ar gyfer safonau ansawdd yn ei archwiliad diweddaraf gan TEC Quality Ltd.
Mae’r cwmni o Lanelli, sy’n darparu technoleg gynorthwyol i gefnogi pobl hŷn a bregus i fyw’n fwy annibynnol, wedi ennill statws Fframwaith Safonau Ansawdd (QSF) TSA.
Mae'r QSF yn rhaglen archwilio ac ardystio annibynnol ar gyfer y sector Gofal trwy gymorth Technoleg (TEC), a reoleiddir gan Gymdeithas Gwasanaethau TEC (TSA), corff cynghori'r diwydiant.
Cafodd Llesiant Delta Wellbeing, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, asesiad trylwyr o’i wasanaethau a’i brosesau ac mae bellach wedi’i ardystio i gydymffurfio â’r holl fodiwlau safonau a darparu gwasanaethau sy’n ofynnol ar gyfer y QSF.
Roedd yn cynnwys profiad defnyddwyr a gwasanaeth, diogelwch defnyddwyr, effeithiolrwydd gwasanaeth, moeseg a gwelliant parhaus ac arloesi ymhlith eraill. Archwiliwyd y cwmni hefyd yn benodol ar ei asesiad o TEC, gwasanaethau ymateb a monitro Tele-iechyd a'u gosod a'u monitro. Nid oedd angen gwella dim ar y gwasanaeth
Mae hyn yn dangos bod Llesiant Delta Wellbeing yn darparu gwasanaethau diogel o ansawdd uchel, gan ddarparu tawelwch meddwl ychwanegol i bobl sy'n dibynnu ar ei atebion, yn ogystal â sicrwydd i'w bartneriaid yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd yr archwilydd: “Er ei bod wedi bod yn flwyddyn heriol yn wyneb sefyllfa genedlaethol, mae busnes wedi’i reoli’n dda ac mae risgiau wedi’u hasesu a’u lliniaru’n llawn. Mae llawer iawn o ganlyniadau cadarnhaol o'r 12 mis diwethaf. Mae’r busnes wedi bod yn rhagweithiol a blaengar iawn yn ei ddatblygiad parhaus o wasanaethau presennol ac arloesol newydd.”
Hefyd, aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud: “Mae llwyfan monitro a seilwaith Llesiant Delta Wellbeing yn defnyddio technoleg arloesol i gefnogi ystod o atebion i anghenion gofal a chymorth, yn cynnwys Tele-ofal, Tele-iechyd a Thele-feddyginiaeth.”
Mae’r cwmni’n darparu cymorth a gwasanaethau 24 awr yn y gymuned i fwy na 35,000 o drigolion (a 15,000 arall yn ôl yr angen) ledled Cymru. Mae'n cynnwys monitro larymau ac ymateb brys i breswylwyr sy'n agored i niwed gartref, os ydynt yn teimlo'n sâl, yn cwympo neu os oes angen cymorth arall arnynt. Gallant gyffwrdd botwm ar fand arddwrn neu seinio'r larwm gwddf.
Ar gyfartaledd, mae’r tîm yn ymateb i 350 o alwadau y mis, ac mae hefyd yn darparu ‘pontio brys’ i gefnogi cleifion yn y gymuned ag anghenion gofal cartref ac anghenion eraill, gan helpu i sicrhau bod digon o welyau ar gael yn yr ysbyty a lleddfu pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans.
Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) dwyieithog 24/7 i sicrhau bod unigolion yn gallu cael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth gywir i hybu a chynnal llesiant ac annibyniaeth, yn ogystal â Tele-iechyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cefnogi cleientiaid i ddefnyddio'r technolegau diweddaraf i fonitro a rheoli eu hiechyd yn y cartref.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Caerfyrddin, y tîm am barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel.
Dywedodd: “Mae hwn yn gyflawniad gwych. Canfu’r adroddiad fod Llesiant Delta Wellbeing yn cydymffurfio â’r safonau ansawdd ym mhob maes, gan ddod i'r casgliad nad oes angen unrhyw welliant yn unrhyw un o’i wasanaethau.
"Mae hyn yn rhoi sicrwydd i gleientiaid a'u teuluoedd. Mae cwsmeriaid bob amser wrth wraidd y gwasanaeth, ac mae hyn yn cael ei gyfleu drwy gydol yr adroddiad archwilio.
“Rwy’n falch dros ben o’r tîm yn Delta am gynnal ei safonau uchel iawn yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn heriol iawn o ganlyniad i'r pandemig COVID-19 a phroblemau recriwtio parhaus. Maent yn darparu gwasanaeth hanfodol sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl, yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â galwadau cynyddol o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol trwy ddatblygu a darparu atebion a gwasanaethau iechyd arloesol sy'n seiliedig ar dechnoleg.”