25 Chwefror 2025
Llesiant Delta yn cyhoeddi penodiad Cadeirydd cwmni newydd
Mae Llesiant Delta, canolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau Gofal trwy Gymorth Technegol yng Nghymru, yn falch o gyhoeddi penodiad Ben Joakim yn Gadeirydd newydd ei gwmni.
Mae Llesiant Delta yn dechrau ar gyfnod cyffrous o ddatblygu yn dilyn cyfnod o dwf cyflym, a thrwy penodi Ben, mae'r cwmni'n barod i adeiladu ar ei lwyddiant a pharhau i ddarparu gwasanaethau cymorth effeithiol sy'n cael eu gyrru gan dechnoleg sy'n galluogi preswylwyr ledled Cymru i fyw'n annibynnol ac yn hyderus yn eu cartrefi.
Mae Ben yn dod â chyfoeth o brofiad fel arweinydd entrepreneuraidd gyda hanes profedig yn y sectorau cyllid, technoleg a chymunedol. Yn angerddol am feithrin twf ac arloesedd cynaliadwy, mae gyrfa Ben wedi rhychwantu rolau uwch gyda sefydliadau gan gynnwys Cymdeithas Adeiladu'r Principality, Fintech Wales, a'r Porthladd Rhydd Celtaidd. Mae ei waith wedi cael effaith ar raddfa drwy lywodraethu strategol, buddsoddiad ac arloesedd.
Yn flaenorol, sefydlodd Ben Disberse, llwyfan technoleg ariannol sydd wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, sy'n gwella tryloywder cymorth byd-eang, mewn partneriaeth â llywodraeth y DU a'r Cenhedloedd Unedig. Mae ganddo hefyd brofiad sylweddol o arwain sefydliadau di-elw ar draws Affrica Is-Sahara, gan sbarduno menter, cyflogaeth ac addysg.
Yn ogystal â'i rôl newydd yn Delta Wellbeing, Ben yw Cadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig, melin drafod annibynnol fwyaf blaenllaw Cymru. Mae'n eiriolwr cydnabyddedig dros greu Cymru fwy llewyrchus mewn byd cynaliadwy.
Dywedodd Ben, un o gyn-fyfyrwyr Coleg yr Iwerydd a Phrifysgol Caerdydd: “Rwy'n llawn cyffro i ymuno â Llesiant Delta fel Cadeirydd a gweithio ochr yn ochr â Samantha a'i thîm. Mae'r cwmni eisoes wedi cyflawni cymaint wrth drawsnewid gofal drwy arloesi, ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar y sylfaen hon i gynyddu ein cyrhaeddiad a'n heffaith - gan rymuso mwy o bobl ledled Cymru i fyw'n annibynnol ac yn hyderus.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli Llesiant Delta, Samantha Watkins: “Pleser mawr yw croesawu Ben fel ein Cadeirydd newydd. Bydd ei gefndir trawiadol mewn strategaeth, llywodraethu ac arloesi yn amhrisiadwy wrth i ni fwrw ymlaen â'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf a pharhau i wasanaethu ein cymunedau gydag atebion gofal blaengar.”
