04 Hydref 2024
Llesiant Delta yn cyrraedd y rhestr fer yn y rownd derfynol ranbarthol mewn pum categori Gwobrau Gofal Prydain
Mae Llesiant Delta wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn pum categori yn rhanbarth Cymru o Wobrau Gofal Prydain.
Mae'r gwobrau'n dathlu rhagoriaeth ar draws holl feysydd y sector gofal cymdeithasol gan gydnabod gwaith staff rheng flaen megis gweithwyr gofal a rheolwyr gofal, a'r bobl hynny sydd wedi cael dylanwad mewn ffyrdd eraill megis hyfforddiant ac arloesi.
Mae Llesiant Delta wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Gofal ynghyd â'r gwobrau am Urddas mewn Gofal, Rhoi Pobl yn Gyntaf a Datblygu'r Gweithlu. Yn ogystal, mae swyddogion ymateb cymunedol Mark Burt a Nadine Rees wedi cael eu cydnabod am eu gwasanaeth eithriadol, gan gael eu henwebu am y Wobr Gweithiwr Gofal Cartref.
Mae gwasanaeth ymateb cymunedol arloesol 24 awr y cwmni, sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru i'w gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, yn darparu gofal cartref hanfodol a chymorth gofal cymdeithasol brys. Mae'r gwasanaeth yn helpu preswylwyr i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, yn cefnogi byw'n annibynnol, ac yn cynorthwyo cleifion i fynd adref o'r ysbyty hyd nes bod gofal ailalluogi neu ofal hirdymor ar waith.
Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwy'n falch iawn o weld Llesiant Delta yn cael ei gydnabod am ei waith eithriadol yn y gwobrau mawreddog hyn. Mae cyrraedd y rhestr fer mewn pum categori yn dyst i'w arloesedd a'r effaith sylweddol y maent yn ei chael ar fywydau ein preswylwyr mwyaf agored i niwed. Mae eu hymrwymiad i ddarparu gofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar y person, yn enwedig mewn sefyllfaoedd brys, wir yn ganmoladwy.
"Mae cydweithrediad agos Llesiant Delta â'r gwasanaethau cymdeithasol a'r bwrdd iechyd yn sicrhau bod preswylwyr yn cael y gofal sydd ei angen arnynt gartref, gan leihau derbyniadau diangen i'r ysbyty a hyrwyddo canlyniadau gwell. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn haeddiannol iawn, a hoffwn ddiolch i'r tîm am eu hymrwymiad pendant i wella bywydau yn Sir Gaerfyrddin."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher 6 Tachwedd yn ystod cinio gala arbennig yng Gwesty'r Marriott, Caerdydd.