01 Mehefin 2023
Llesiant Delta yn dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed
Mae Llesiant Delta yn dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed.
Fel gwasanaeth Llinell Gofal Cyngor Sir Caerfyrddin gynt, daeth yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn 2018 ac mae'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro a chymorth rhagweithiol i helpu pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n annibynnol gartref.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae wedi ehangu ei wasanaethau yng Nghymru gan ddefnyddio Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) i ddarparu amrywiaeth o atebion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac i gefnogi cleifion sy'n gadael yr ysbyty yn ogystal â rhai yn y gymuned.
Mae'r cwmni wedi cynyddu ei weithlu 356%, o 46 i 164, sy'n gynnydd enfawr, ac mae wedi delio â 5.2 miliwn o alwadau drwy larwm ac wedi helpu dros 600,000 o bobl gydag argyfyngau y tu allan i oriau.
Mae'r tîm TEC wedi cwblhau bron 10,000 o osodiadau a 14,877 o alwadau cynnal a chadw.
Mae ei wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth dwyieithog 24/7 yn sicrhau bod pobl Sir Gaerfyrddin yn gallu cael y cymorth cywir ac yn darparu cymorth i hyrwyddo a chynnal llesiant ac annibyniaeth. Ers 2018 mae staff wedi cynorthwyo dros 65,000 o unigolion.
Yn 2020, lansiodd Llesiant Delta ei wasanaeth CONNECT sydd wedi ennill gwobrau. Ariennir y gwasanaeth gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru drwy Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, ac mae'n darparu gwasanaeth llinell gymorth a theleofal cofleidiol i bobl ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gan lywio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng ngorllewin Cymru.
Mae cyfanswm o 6,050 o breswylwyr wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, ac mae 86,263 o alwadau ffôn rhagweithiol wedi'u gwneud sy'n nifer anhygoel.
Mae'r tîm ymateb cyflym wedi ymateb i 12,651 o alwadau i gynorthwyo pobl gartref mewn argyfwng, er enghraifft, os ydynt wedi cwympo ac yn methu â chodi eto. Dim ond 6% o'r galwadau hyn yr oedd angen eu huwchgyfeirio i'r gwasanaethau brys, gan atal galwadau ambiwlans diangen a derbyniadau i'r ysbyty.
Hefyd mae’r tîm yn darparu ‘pontio brys’ i roi cymorth i gleifion yn y gymuned o ran gofal cartref ac anghenion eraill. Ers Ebrill 2022, maent wedi cynorthwyo 564 o gleifion i gael eu rhyddhau o'r ysbyty chwe diwrnod ynghynt, gan arbed 2,292 o ddiwrnodau gwely ar gost o £1,041,943.
Mae’r bartneriaeth rhwng y cwmni â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn helpu cleifion i ddefnyddio amrywiaeth o offer teleiechyd i fonitro a rheoli eu hiechyd gartref, ac mae cyfanswm o 670 o gleifion ar draws y rhanbarth wedi elwa o'r prosiect hwn hyd yn hyn.
Yn ystod pandemig COVID-19, aeth staff Llesiant Delta yr ail filltir i gefnogi preswylwyr agored i niwed, gan helpu i ddosbarthu mwy nag 8,000 o barseli bwyd hanfodol i'r rhai mewn angen, a gwneud dros 5,000 o alwadau llesiant i breswylwyr oedd yn gwarchod eu hunain gan sicrhau bod ganddynt fwyd a mynediad at feddyginiaeth. Roeddent hefyd yn rhan annatod o dîm ymroddedig Profi, Olrhain a Diogelu Cyngor Sir Caerfyrddin.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, sef Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Pan wnaethom sefydlu Llesiant Delta fel menter fasnachol, ein nod oedd gallu cynnig gwasanaeth gwell i breswylwyr ledled Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â darparu mwy o gyfleoedd cyflogaeth a chreu incwm y gellid ei ailfuddsoddi mewn gwasanaethau ychwanegol neu ei drosglwyddo'n ôl i'r cyngor i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol eraill.
“Mae'r cwmni wedi cyflawni hyn a mwy. Mae'n llwyddo i ddarparu gwasanaethau hanfodol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl; gan gynnal a gwella iechyd a llesiant pobl hŷn ac agored i niwed ledled y rhanbarth, yn ogystal â'u helpu i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.
“Mae'r cwmni wedi datblygu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n helpu i fynd i'r afael â'r galw cynyddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddatblygu a darparu atebion a gwasanaethau iechyd arloesol sy'n seiliedig ar dechnoleg - ac yn y pen draw trawsnewid y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ledled y rhanbarth a thu hwnt.
“Bydd y newid o analog i ddigidol yn darparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd ar gyfer twf gan wella'n sylweddol y dechnoleg y bydd Llesiant Delta yn gallu ei chynnig a gwella'r gwaith o gasglu data i ddarparu gofal a chymorth personol, mwy clyfar; gan sicrhau bod y cwmni ar y blaen o ran yr hyn sy'n bosibl yn awr ac yn y dyfodol.
“Llongyfarchiadau a da iawn bawb yn Llesiant Delta ar gyrraedd y garreg filltir wych hon ac am bum mlynedd hynod lwyddiannus.”
