28 Ionawr 2025
Llesiant Delta yn dathlu llwyddiant dwbl yng Ngwobrau Busnes Bae Abertawe 2025
Mae Llesiant Delta wedi ennill y wobr Busnes Nid-er-elw y Flwyddyn ac wedi cael Canmoliaeth Uchel yn y categori Busnes Arloesol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes mawreddog Bae Abertawe 2025.
Mae'r seremoni wobrwyo, a gafodd ei chynnal yn Neuadd Brangwyn, Abertawe a'i chyflwyno gan Jason Mohammad, yn dathlu rhagoriaeth ac arloesi ar draws cymuned fusnes Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Ers cael ei sefydlu yn 2018 fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, mae Llesiant Delta wedi chwyldroi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy atebion gofal trwy gymorth technoleg.
Mae platfform monitro Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) brys y cwmni yn hwyluso, ar gyfartaledd, dros 1.5 miliwn o alwadau bob blwyddyn, ac yn darparu cymorth a gwasanaethau 24 awr i fwy na 36,000 o drigolion ledled Cymru, 365 diwrnod o'r flwyddyn.
Mae cyflawniadau diweddar yn cynnwys proses lwyddiannus y cwmni o drosglwyddo i blatfform digidol newydd, sy'n golygu ei fod ymhell ar y blaen o ran y newid o analog ledled y DU a fydd yn digwydd yn 2027. Mae'r broses trawsnewid digidol hon, mewn partneriaeth â CGI, yn galluogi galluoedd monitro gwell ac integreiddio gwell gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwell canlyniadau i'w ddefnyddwyr gwasanaeth a gwneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Mae gwasanaeth CONNECT arloesol Llesiant Delta, a ariennir gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys gwasanaeth ymateb cymunedol a phecynnau cymorth hyblyg wedi'u teilwra ar gyfer anghenion penodol unigolyn i'w helpu i fyw'n annibynnol am gyhyd ag y bo modd gan ddefnyddio'r dechnoleg gynorthwyol ddiweddaraf. Drwy nodi problemau iechyd a llesiant posibl cyn gynted â phosibl, mae'n sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu ar yr adeg gywir, gan leihau'r galw ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin, mae'r gwasanaeth wedi datblygu'n sylweddol gyda staff Byddin Las Llesiant Delta sy'n sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau'n ddiogel ac yn effeithlon cyn gynted ag y byddant yn ffit yn feddygol, gan sicrhau bod mwy o welyau ysbyty ar gael a lleddfu'r pwysau ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol statudol.
Mae'r cwmni'n parhau i osod safonau'r diwydiant, a Llesiant Delta oedd y gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru i gael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae adborth rhagorol yn ei arolygiad diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Cymru diweddaraf ac archwiliad Fframwaith Safonau Ansawdd TSA, yn tynnu sylw at ragoriaeth Llesiant Delta wrth ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac arloesedd technolegol.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chadeirydd Grŵp Llywodraethu Llesiant Delta: “Mae'n anrhydedd mawr derbyn y gwobrau mawreddog hyn, sy'n cydnabod ymrwymiad Llesiant Delta i drawsnewid bywydau drwy dechnoleg arloesol a gofal tosturiol ac yn adlewyrchu ymroddiad y tîm cyfan sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi ein cymunedau.
“Fel sefydliad nid-er-elw, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r rhai mwyaf agored i niwed, yn ogystal ag ailfuddsoddi unrhyw arian sy'n weddill mewn gofal cymdeithasol.”
Mae'r gwobrau yn cael eu trefnu gan grŵp JR Events o Lanelli mewn partneriaeth â Bevan Buckland LLP a noddwyr y categorïau – JCP Solicitors, Coleg Gŵyr Abertawe, Sturgess Mortgage Solutions, LBS Builders Merchants, Banc Datblygu Cymru, Morgan LaRoche, Bwydydd Castell Howell, HSBC, Abertawe Greadigol yng Nghyngor Abertawe a Tomato Energy.
Lluniau: Gareth Danks Photo & Video