Yn ôl

Llesiant Delta yn derbyn adroddiad arolygu rhagorol gan Arolygiaeth Gofal Cymru

Mewn arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) mae Llesiant Delta wedi cael canmoliaeth am ei ofal tosturiol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ragoriaeth ac ymrwymiad y cwmni i ddarparu gwasanaeth eithriadol drwy dîm ymateb cymunedol ymroddedig ac angerddol, a hynny drwy reolaeth llawn gweledigaeth ac arweiniad cefnogol iawn. 

Mae'n canmol Llesiant Delta am osod amgylchiadau ac anghenion unigol pobl wrth wraidd ei wasanaethau. Mae dull y cwmni o gynllunio ac adolygu gofal yn sicrhau bod anghenion a dewisiadau pob unigolyn yn cael eu diwallu gyda gofal wedi'i deilwra, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Yn benodol, mae'r cydweithio rhwng Llesiant Delta a Gartref yn Gyntaf - tîm amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn cael ei ganmol am ei lwyddiant wrth atal derbyniadau i'r ysbyty a hwyluso rhyddhau cleifion yn amserol, gan sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal cywir ar yr adeg iawn.

Roedd cwsmeriaid yn llawn canmoliaeth am y cwmni a'r gofal a gawsant, gydag un perthynas yn disgrifio Llesiant Delta fel "gwasanaeth rhagorol a gafodd effaith aruthrol o gadarnhaol ar ein bywydau ar adeg a oedd yn gyfnod anodd i ni fel teulu.”

Dywedodd defnyddiwr gwasanaeth arall wrth yr arolygydd: “Roedden nhw'n wych, roedden nhw mor ofalgar. Gwnaethon nhw wir helpu i dawelu fy meddwl; roedd yn gymaint o ryddhad. Dydw i ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi'i wneud hebddyn nhw.”  

Roedd yr adroddiad wedi tynnu sylw at ymroddiad a thosturi'r swyddogion wrth ymateb, ac sy'n cael eu gwerthfawrogi am eu parch, proffesiynoldeb a'r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar y bobl maent yn eu cefnogi. Bu'r staff hefyd yn siarad yn angerddol am eu rolau; gydag un o'r ymatebwyr yn dweud wrth yr arolygydd: “Mae gweithio i Lesiant Delta yn swydd werth chweil. Mae'n gysur mawr gwybod eich bod chi'n helpu pobl yn eu hawr o angen.”

Ni chanfu'r arolygiad unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio na meysydd arwyddocaol i'w gwella, gan ddangos ymrwymiad y cwmni i gynnal y safonau uchaf o ran gofal a darparu gwasanaethau.

Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol. Hwn yw'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru i gael ei gofrestru gydag AGC ac mae'n caniatáu i staff allu darparu'r gofal a'r cymorth angenrheidiol wrth roi sylw i gleient yn ei gartref.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chadeirydd Grŵp Llywodraethu'r cwmni: “Mae'r adborth rhagorol o'r arolygiad yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Llesiant Delta i ddarparu gofal a chymorth eithriadol i'r gymuned. 

“Rwy'n falch iawn o'r gwaith maen nhw'n ei wneud bob dydd, gan weithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n diwallu anghenion unigryw pob unigolyn. Gyda thîm angerddol ac ymroddedig, mae Llesiant Delta wedi ymrwymo i wella bywydau'r rhai y maent yn eu gwasanaethu, gan sicrhau eu bod yn derbyn y gofal o'r ansawdd uchaf yn ystod cyfnod heriol iawn.”